Amgueddfa Wlân Cymru yw'r cyntaf i gael cydnabyddiaeth fel Llysgennad Busnes Sir Gâr
2 diwrnod yn ôl
Amgueddfa Wlân Cymru yw'r sefydliad cyntaf i gael cydnabyddiaeth drwy Gynllun Llysgenhadon Busnes newydd Sir Gâr, sy'n dathlu busnesau sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo'r sir fel cyrchfan o safon i ymwelwyr.
Mae'r Cynllun Llysgenhadon Busnes wedi'i ddatblygu fel prosiect peilot sy'n cael ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ac mae'n adeiladu ar lwyddiant Rhaglen Llysgenhadon Twristiaeth ehangach Sir Gâr. Nod y fenter yw creu rhwydwaith cryf a chysylltiedig da o hyrwyddwyr twristiaeth sy'n hyrwyddo diwylliant, treftadaeth, tirweddau, lletygarwch ac atyniadau ymwelwyr Sir Gâr.
Cafodd naw busnes o bob cwr o'r sir eu dewis i gymryd rhan yn y rhaglen beilot, ac Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach Felindre yw'r cyntaf i gwblhau'r rhaglen a derbyn ei gwobr. Cafodd hyfforddiant a chymorth eu cynnig drwy gydol y cynllun, ac mae aelodau staff bellach wedi derbyn tystysgrifau a bathodyn Llysgennad Aur. Bydd yr Amgueddfa, sy'n dathlu 50 mlynedd o warchod a rhannu treftadaeth ddiwydiannol Cymru, yn falch o arddangos y cyflawniad hwn drwy sticeri ffenestri a gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Gan gyfrannu dros £0.75 biliwn bob blwyddyn, mae ein sector twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn economi Sir Gâr, ac mae'r Cynllun Llysgenhadon Busnes yn helpu i greu eiriolwyr angerddol sy'n gallu rhannu popeth sy'n gwneud ein sir mor arbennig. Drwy fuddsoddi yn ein busnesau a'u staff, rydyn ni'n gwella profiad ymwelwyr ac yn adeiladu rhwydwaith o lysgenhadon a fydd yn annog mwy o bobl i ddarganfod atyniadau rhagorol, treftadaeth, lletygarwch a harddwch naturiol Sir Gâr.
Llongyfarchiadau i Amgueddfa Wlân Cymru am fod y sefydliad cyntaf i gwblhau'r rhaglen a derbyn y gydnabyddiaeth hon. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddathlu llwyddiannau'r busnesau eraill sy'n cymryd rhan wrth iddyn nhw gwblhau eu taith i fod yn Llysgenhadon dros y misoedd nesaf."
Bydd Amgueddfa Wlân Cymru hefyd yn cynnal Sioe Deuluol ym Mhentre'r Garreg Las yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd, Sir Benfro ddydd Sul, 2 Awst am 3pm. Bydd pawb sy'n gwylio'r sioe yn darganfod straeon diddorol am ddiwydiant gwlân Cymru ac yn dysgu mwy am y bobl, y traddodiadau a'r dreftadaeth a oedd yn rhan o un o ddiwydiannau pwysicaf y genedl.
