Eisteddfod Genedlaethol 2026
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad bywiog o'r Gymraeg, cerddoriaeth, llenyddiaeth a thalent artistig.
Ble a phryd?
Bydd Llantwd, sydd yng nghanol gogledd Sir Benfro — un o dirweddau mwyaf trawiadol Cymru — yn barod i groesawu ymwelwyr rhwng 1 - 8 Awst 2026.
Mae'r Eisteddfod eleni yn ardal y Garreg Las, gyda’r enw yn deillio o'r garreg las leol nodweddiadol. Mae'r dalgylch yn cwmpasu tair ardal hardd — Sir Benfro, de Ceredigion, a gorllewin Sir Gâr — pob un yn dod â'i chymeriad, ei threftadaeth a'i chroeso Cymreig cynnes ei hun i'r ŵyl.
Lleoliad: Llantwd, ger Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3NU
Amdanom Ni - Eisteddfod Genedlaethol 2026
Bydd Eisteddfod Y Garreg Las yn nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf a gofnodwyd, a gynhaliwyd yn Aberteifi yn 1176.
Fel prif ddathliad Cymru o'r iaith a'r diwylliant Cymraeg, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn denu perfformwyr, ysgrifenwyr, artistiaid, corau, cystadleuwyr ac ymwelwyr o bob cwr o'r wlad. Dros gyfnod o wythnos, mae'n cynnig rhaglen fywiog o gystadlaethau, cyngherddau, arddangosfeydd, perfformiadau theatrig, digwyddiadau llenyddol, a gweithgareddau cymunedol, gan arddangos cerddoriaeth, barddoniaeth, celfyddydau gweledol, crefftau, a mwy.
Yn draddodiadol, cynhelir yr ŵyl ddechrau mis Awst ac mae'n symud rhwng gogledd a de Cymru bob blwyddyn. Yn 2026, bydd dalgylch yr Eisteddfod yn ymestyn y tu hwnt i Sir Benfro i gynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a gorllewin Sir Gâr, gan greu cyfleoedd ehangach i bobl leol gymryd rhan mewn cynllunio, gwirfoddoli a dathlu'r digwyddiad.
Taith Yr Arglwydd Rhys
Ymunwch â ni mewn digwyddiadau am ddim gan gynnwys cerddoriaeth a barddoniaeth wrth i ni groesawu'r Arglwydd Rhys a'i gi ffyddlon Teifi i'r lleoliadau canlynol:
19 Mehefin 26: 17:45 – Tyddewi
20 Mehefin 26: 12:00 – Cenarth
20 Mehefin 26: 16:30 – Castellnewydd Emlyn
21 Mehefin 26: 12:00 – Talgarreg
21 Mehefin 26: 18:00 – Llangrannog
25 Mehefin 26: 18:00 – Wdig
26 Mehefin 26: 18:00 – Maenclochog
27 Mehefin 26: 12:00 – 22:30 - Aberteifi

Prosiect Addurno 2026
Harddu yw ein prosiect addurno blynyddol sy'n uno'r gymuned i baratoi croeso bywiog i ymwelwyr o bob cwr o Gymru. Mae'n ffordd hwyliog a chynhwysol i bobl o bob oed gymryd rhan, bod yn greadigol, ac arddangos balchder ac ysbryd Y Garreg Las.
4 Gorffennaf - Gweithdy yn Manor Wildlife Park
Dewch i greu cerflun o ddraig gydag Anna Ryder-Richardson. Bydd tocyn am ddim i Manor Wildlife Park i bawb sy'n cymryd rhan yn y gweithdy. Mwy o fanylion i'w rhannu cyn bo hir!
Isel ar ysbrydoliaeth? Gwelwch ein llawlyfr Harddu yma.
Yn barod i arddangos eich celf? Gofynnwn yn garedig i chi weithio gyda'ch gilydd i osod eich gwaith celf yn ddiogel a sicrhau bod gennych ganiatâd y Cyngor neu'r tirfeddiannwr ymlaen llaw.
Be sy' mlaen
Amserlen ddyddiol i'w chadarnhau

Ble i Aros
Os nad ydych chi'n bwriadu aros ar safle'r Eisteddfod, mae Sir Gâr yn cynnig amrywiaeth eang o lefydd i aros, ymlacio a mwynhau. P'un a ydych chi'n chwilio am lety hunanarlwyo o ansawdd uchel, safleoedd gwersylla a pharciau carafanau llawn golygfeydd, neu gwestai a llety annibynnol croesawgar, mae gan y sir rywbeth i weddu i bob chwaeth a chyllideb.
Llefydd i ymweld â nhw
Mae Sir Gâr yn sir o gyferbyniadau cyfareddol, lle mae tirweddau dramatig, trefi hardd a threftadaeth gyfoethog yn cyfuno i greu profiadau bythgofiadwy. O fryniau tonnog a mynyddoedd garw yn y gogledd i arfordiroedd ysgubol a threfi marchnad bywiog yn y gorllewin, mae rhywbeth i'w ddarganfod ar bob tro.
Ar draws y rhanbarth, fe welwch gyfoeth o bethau i'w gweld a'u gwneud: o safleoedd treftadaeth a phrofiadau bwyd lleol i weithgareddau awyr agored gan gynnwys cerdded, beicio a gwylio bywyd gwyllt. P'un a ydych chi'n crwydro trefi marchnad hardd neu'n mynd ar drywydd trysorau cudd cefn gwlad, mae Gogledd a Gorllewin Sir Gâr yn addo golygfeydd ysbrydoledig, straeon diddorol a digon o resymau dros aros ychydig yn hirach.