Niwsans clêr yn ne Llanelli

11 diwrnod yn ôl

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am Iechyd y Cyhoedd:

Ar ôl cadarnhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi nodi cynnydd ymhlith pryfed mewn rhannau o Lanelli fel safle a ganiateir gan CNC a chyhoeddi hysbysiad gorfodi dilynol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio gyda CNC a phartneriaid ar y mater hwn.

Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus y Cyngor Sir wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i helpu i fynd i'r afael â'r mater gan gynnwys arolygiadau o leoliadau ffynhonnell posibl, monitro gweithgarwch, ymgysylltu â chymunedau lleol, darparu cymorth uniongyrchol lle bo angen, a rhoi mesurau lliniaru ar waith, gan gynnwys defnyddio trapiau pryfed yn yr ardaloedd dan sylw.

Byddwn ni'n parhau i adolygu'r sefyllfa'n ofalus a gweithio gyda sefydliadau partner i gymryd unrhyw gamau priodol i ddiogelu trigolion a lleihau niwsans.

Bydden ni'n annog unrhyw un sy'n cael problemau gyda chynnydd mewn clêr yn yr ardal i roi gwybod amdanynt drwy'r ganolfan gyswllt – 01267 234567 neu drwy e-bost i diogelurcyhoedd@sirgar.gov.uk, gan fod y wybodaeth hon yn helpu swyddogion i fonitro'r sefyllfa a thargedu gweithgarwch ymchwilio.

Mae datganiad diweddaraf CNC ar y mater i'w weld ar ei wefan

Mae'r cwestiynau cyffredin canlynol wedi'u llunio i ateb cwestiynau sy'n cael eu gofyn gan drigolion a'r cyhoedd ehangach.

*yn dynodi cwestiynau newydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau mai ffynhonnell y cynnydd mewn clêr sy'n effeithio ar rannau o dde Llanelli yw AMG Resources Ltd, safle sydd wedi cael trwydded gan CNC. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio'n agos gyda CNC a phartneriaid eraill i fonitro'r sefyllfa, helpu cymunedau yr effeithir arnyn nhw, a rhoi mesurau lliniaru ar waith.

Ydy.

Mae CNC wedi nodi mai ffynhonnell y cynnydd mewn clêr yw safle sydd wedi cael trwydded gan CNC ac mae wedi cyflwyno hysbysiad gorfodi. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i gefnogi gwaith rheoleiddio CNC ac i fonitro'r sefyllfa yn y gymuned.

Mae CNC wedi cyflwyno hysbysiad gorfodi sy'n mynnu bod rhaid gweithredu mewn perthynas â'r ffynhonnell sydd wedi'i nodi. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio gyda CNC a phartneriaid, gwneud gwaith monitro, helpu trigolion, rhoi mesurau lliniaru ar waith lle bo hynny'n briodol, ac adolygu'r sefyllfa yn barhaus.

CNC yw'r rheoleiddiwr amgylcheddol sy'n gyfrifol am oruchwylio cydymffurfiaeth ag amodau trwydded amgylcheddol ar y safle. Yn dilyn yr ymchwiliad, mae CNC wedi nodi ffynhonnell y cynnydd mewn clêr ac wedi cyflwyno hysbysiad gorfodi. Mae CNC yn parhau i reoleiddio'r safle a monitro cydymffurfiaeth â'i ofynion.

Defnyddiodd y Cyngor ddull oedd yn seiliedig ar dystiolaeth drwy gydol yr ymchwiliad. Cyn dod i unrhyw gasgliadau, roedd yn rhaid casglu tystiolaeth drwy archwiliadau, gwaith monitro, samplu ac asesu, a chafodd y wybodaeth hon ei rhoi i CNC fel rheoleiddiwr y safle. Mae CNC bellach wedi cwblhau ei ymchwiliad ac wedi cadarnhau'r ffynhonnell, gan olygu bod modd cymryd camau rheoleiddio. 

Mae'r ffocws bellach wedi newid o nodi'r ffynhonnell i fonitro'r sefyllfa, cefnogi gwaith gorfodi, asesu effeithiolrwydd y mesurau lliniaru a diogelu iechyd a llesiant y cyhoedd yn y cymunedau dan sylw.

Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd y Cyngor wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i ymateb i'r mater, gan gynnwys:

  • Monitro nifer y clêr ar draws yr ardaloedd dan sylw.
  • Cefnogi trigolion. 
  • Defnyddio trapiau pryfed mewn mannau strategol.
  • Gweithio gyda CNC a phartneriaid eraill.
  • Darparu diweddariadau rheolaidd i drigolion ac aelodau etholedig.
  • Parhau i asesu effeithiolrwydd y mesurau lliniaru.

Mae trigolion yn cael eu hannog i barhau i roi gwybod am broblem o ran clêr i'r Cyngor drwy’r dulliau canlynol:

Rhif ffôn: 01267 234567 

 E-bost: diogelurcyhoedd@sirgar.gov.uk

Mae'r adroddiadau hyn yn helpu swyddogion i fonitro tueddiadau, asesu a yw'r sefyllfa yn gwella a thargedu unrhyw ymyrraeth angenrheidiol. 

Bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu diweddariadau drwy ei wefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol ac aelodau etholedig lleol. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn dilyn datblygiadau sylweddol. 

Mae'r Cyngor yn cydnabod y gofid a'r anghyfleustra sylweddol mae'r cynnydd mewn clêr wedi'u hachosi i drigolion a busnesau yr effeithir arnyn nhw. Dylai trigolion ystyried cael eu cyngor cyfreithiol eu hunain ynglŷn â hawliadau posibl, ond nid yw'r Cyngor yn gallu helpu gyda hyn. 

Dylai unrhyw un sy'n credu ei fod wedi cael difrod neu golled gadw unrhyw dystiolaeth sydd ar gael, fel ffotograffau, derbynebau, anfonebau, cofnodion o gostau glanhau, neu ddogfennau perthnasol eraill. Mae'n bosibl y bydd eich ymgynghorydd cyfreithiol eich hun yn gallu rhoi rhagor o gyngor ar y mater hwn.

Efallai y bydd busnesau sy'n credu eu bod wedi wynebu colledion ariannol yn dymuno cadw cofnodion o unrhyw gostau ychwanegol neu effeithiau maen nhw wedi'u hwynebu. Mae'n bosibl y bydd eich ymgynghorydd cyfreithiol eich hun yn gallu rhoi rhagor o gyngor ar y mater hwn.

Dylech. Efallai y bydd trigolion a busnesau am gadw cofnodion o'r niwsans, gan gynnwys ffotograffau, fideos, dyddiadau, amseroedd, costau glanhau, costau rheoli plâu ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Gallai hyn fod o gymorth o ran yr ymchwiliad parhaus, ac unrhyw hawliadau am iawndal rydych chi am eu gwneud.

Efallai y bydd y mesurau canlynol yn ddefnyddiol i drigolion:

  • Cadwch ddrysau a ffenestri ar gau lle bo modd neu defnyddiwch sgriniau pryfed.
  • Sicrhewch fod gwastraff bwyd yn cael ei storio'n ddiogel a bod biniau yn cael eu cadw ar gau.
  • Codwch unrhyw faw anifeiliaid anwes yn brydlon.
  • Peidiwch â gadael bwyd heb orchudd.
  • Defnyddiwch drapiau pryfed neu bapurau dal pryfed lle bo hynny'n briodol.

Gall y mesurau hyn helpu i leihau nifer y clêr sy'n mynd i mewn i dai, er na fyddan nhw'n mynd i'r afael ag achos sylfaenol y mater ehangach.

Mae'r Cyngor wedi bod yn gwneud gwaith monitro mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys ysgolion, busnesau ac ardaloedd preswyl. Mae'r wybodaeth hon yn helpu swyddogion i ddeall hyd a lled a dosbarthiad y clêr ar draws y gymuned. 

Gall tymheredd cynnes gyflymu cylchred bridio clêr, gan ganiatáu i boblogaethau gynyddu'n gyflymach. Gall rhai amodau tywydd hefyd ddylanwadu ar ba mor bell y mae clêr yn teithio a ble maen nhw'n ymgynnull. 

Felly, mae'r tywydd yn un o nifer o ffactorau sy'n cael eu hystyried yn ystod yr ymchwiliad.

Er bod y cynnydd yn nifer y clêr yn achosi niwsans a gofid sylweddol i drigolion, nid yw'r Cyngor wedi nodi unrhyw argyfwng ehangach o ran iechyd y cyhoedd.

Mae'r Cyngor yn cydnabod yr effaith y mae'r sefyllfa yn ei chael ar gymunedau lleol ac mae'n parhau i ymchwilio i'r mater a chymryd camau priodol lle bo angen.

Bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau am gymorth fesul achos, yn enwedig os yw'r trigolion yn agored i niwed o bosib neu os yw'r niwsans yn cael effaith sylweddol arnynt. Mae trigolion sy'n cael anawsterau penodol yn cael eu hannog i gysylltu â'r Cyngor.

Mae nifer y clêr fel arfer yn cynyddu yn ystod tywydd cynhesach. 

Fodd bynnag, mae lefel y broblem sy'n cael ei hadrodd ar hyn o bryd gan nifer o bobl sy'n byw yn ne Llanelli yn uwch na'r hyn a ddisgwylir fel arfer. Dyna pam mae ymchwiliad ffurfiol yn cael ei gynnal.  

Nod yr ymchwiliad yw penderfynu a yw'r amodau presennol yn gysylltiedig â'r tywydd yn unig, yn gysylltiedig ag un neu fwy o ffynonellau lleol, neu a oes cyfuniad o ffactorau yn dylanwadu ar y sefyllfa.

Llwythwch mwy