Gwybodaeth ychwanegol am niwsans clêr
Cwestiynau Cyffredin
Myth v Ffaith
Myth: Mae glaswellt hir yn achosi pla mawr o glêr
Ffaith: Gall glaswellt hir ddarparu mannau i glêr orffwys, ond nid yw fel arfer yn ffynhonnell fridio sylweddol i'r clêr sy'n achosi niwsans sy'n destun yr ymchwiliad presennol.
Myth: Mae'n rhaid mai'r aber yw achos y broblem gan ei fod gerllaw.
Ffaith: Nid yw agosrwydd ar ei ben ei hun yn dangos bod cysylltiad. Nid yw'r ymchwiliadau wedi canfod tystiolaeth bod yr aber yn gyfrifol am lefel y broblem yn ymwneud â chlêr.
Myth: Mae'r Cyngor eisoes yn gwybod y ffynhonnell ond nid yw'n dweud wrth drigolion.
Ffaith: Mae'r ymchwiliadau'n parhau a does dim un ffynhonnell bendant wedi'i nodi eto. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth pan fydd ar gael.
Myth: Bydd torri mwy o laswellt yn datrys y broblem.
Ffaith: Gallai torri glaswellt wella golwg ardal ond mae'n annhebygol, ar ei ben ei hun, o fynd i'r afael â'r achos sylfaenol o ran nifer anarferol o uchel o glêr.
Myth: Dim ond pellteroedd byr y mae clêr yn teithio.
Ffaith: Gall rhai rhywogaethau clêr deithio pellteroedd sylweddol, sy'n golygu nad yw'r man lle mae'r clêr yn cael eu gweld o reidrwydd yr un man lle maen nhw'n tarddu.
Cyngor i Fusnesau
Rydyn ni'n deall yr heriau y mae'r cynnydd mewn clêr yn eu peri i fusnesau lleol. Mae busnesau yn cael eu hannog i gynnal safonau da o ran glendid a threfn, sicrhau bod trefniadau rheoli gwastraff effeithiol ar waith; adolygu effeithiolrwydd eu mesurau rheoli plâu a gwella mesurau rheoli pan ystyrir ei fod yn briodol. Mae ymchwiliad y Cyngor yn parhau ac mae busnesau yr effeithir arnyn nhw'n sylweddol yn cael eu hannog i roi gwybod am y problemau er mwyn helpu i lywio'r asesiad parhaus o'r sefyllfa.
Rwy'n berchennog busnes – beth alla i ei wneud i leihau effaith clêr ar fy safle?
Mae'r Cyngor yn cydnabod y gall cynnydd mewn clêr beri heriau sylweddol i fusnesau, yn enwedig busnesau bwyd, lleoliadau lletygarwch, siopau adwerthu a safleoedd sy'n delio â chwsmeriaid.
Tra bod ymchwiliadau i achos ehangach y broblem yn parhau, mae busnesau yn cael eu hannog i gymryd camau rhesymol i atal clêr rhag dod i mewn a chynnal safonau hylendid da.
Mae'r mesurau sy’n cael eu hargymell yn cynnwys:
Atal clêr rhag mynd i mewn i'r safle
- Cadwch ddrysau allanol / agoriadau ar gau bob amser lle bo hynny'n bosibl
- Ystyriwch osod sgriniau pryfed neu lenni stribed os oes angen cadw ffenestri neu ddrysau ar agor at ddibenion awyru neu fynediad.
- Gwiriwch am fylchau o amgylch drysau, ffenestri a mynedfeydd a'u selio yn ôl yr angen
Cynnal safonau glendid uchel
- Glanhewch fannau paratoi bwyd a gwasanaeth yn rheolaidd.
- Ceisiwch gael gwared ar weddillion bwyd a bwyd sydd wedi gollwng ar unwaith.
- Cadwch ardaloedd allanol yn rhydd o sbwriel a gwastraff.
- Sicrhewch fod draeniau a chwteri yn cael eu cadw mewn cyflwr glân.
Rheoli gwastraff yn effeithiol
- Cadwch gynwysyddion sbwriel wedi'u gorchuddio ac yn sownd.
- Gwagiwch finiau gwastraff yn rheolaidd.
- Storiwch wastraff bwyd mewn cynwysyddion wedi'u selio lle bo'n bosibl.
- Trefnwch fod gwastraff yn cael ei gasglu mor aml ag sy'n briodol.
Ystyried mesurau rheoli clêr ychwanegol
- Defnyddiwch ddyfeisiau rheoli pryfed cymeradwy lle bo'n briodol.
- Sicrhewch fod unrhyw offer lladd pryfed yn cael ei osod a'i gynnal a'i gadw yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr. (Dylai'r rhain gael eu gosod i ffwrdd o fannau paratoi bwyd)
- Gofynnwch am gyngor gan gontractwr rheoli clêr proffesiynol os oes angen.
Fydd presenoldeb clêr yn effeithio ar fy sgôr hylendid bwyd?
Mae'n ofynnol i fusnesau bwyd gymryd pob rhagofal rhesymol i atal plâu / pryfed rhag mynd i mewn i'r safle a chynnal safonau hylendid addas. Mae swyddogion yn cydnabod y gall busnesau sy'n gweithredu yn yr ardal yr effeithir arni fod yn wynebu lefelau eithriadol o uchel o glêr o ffynonellau allanol ar hyn o bryd.
Wrth gynnal archwiliadau, bydd swyddogion yn ystyried:
- Y mesurau ataliol sydd ar waith a'u heffeithiolrwydd.
- Safonau glendid a chadw trefn.
- Ydy camau priodol a digonol yn cael eu cymryd i reoli'r sefyllfa.
Dylai busnesau sicrhau eu bod yn gallu dangos eu bod wedi asesu'r risg ac wedi rhoi mesurau rheoli priodol ar waith.
Beth ddylai busnesau bwyd ei wneud os ydyn nhw'n delio â nifer sylweddol o glêr?
Dylai gweithredwyr busnesau bwyd:
- Adolygu eu trefniadau rheoli plâu.
- Cofnodi unrhyw arsylwadau neu faterion sylweddol.
- Cyflwyno mesurau rheoli ychwanegol os bernir bod angen gwneud hynny
- Sicrhau bod staff yn dilyn gweithdrefnau glanhau a rheoli gwastraff.
- Cysylltu â'u contractwr rheoli plâu os bydd problemau'n parhau.
Gall cadw cofnodion o'r sefyllfa o ran clêr a'r camau sydd wedi'u cymryd helpu'r busnes a'r swyddogion gorfodi os bydd materion yn cael eu hadolygu.
Mae darparu bwyd diogel yn parhau i fod yn gyfrifoldeb y Gweithredwr Busnes Bwyd yn unig
Ddylai busnesau roi gwybod am glêr i'r Cyngor?
Mae busnesau sy'n wynebu problemau sylweddol yn cael eu hannog i roi gwybod amdanyn nhw i'r Cyngor, yn enwedig:
- Os ydy'r broblem yn effeithio ar weithrediadau arferol.
- Os ydy nifer y clêr yn ymddangos fel pe bai'n cynyddu.
Mae'r wybodaeth sy'n cael ei rhoi gan fusnesau yn helpu swyddogion i ddeall hyd a lled a dosbarthiad y broblem ar draws de Llanelli.
Mae'r clêr yn effeithio ar gwsmeriaid sy'n defnyddio ardaloedd eistedd yn yr awyr agored. Beth allwn ni ei wneud?
Efallai yr hoffai busnesau ystyried:
- Glanhau ardaloedd awyr agored yn amlach.
- Cael gwared ar wastraff bwyd yn brydlon.
- Gosod biniau i ffwrdd o seddi cwsmeriaid lle bo'n bosibl.
- Defnyddio dulliau atal neu drapiau pryfed addas yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr.
- Rhoi gwybod i gwsmeriaid ei bod yn broblem ar draws yr ardal ehangach ac yn destun ymchwiliad amlasiantaethol parhaus.
Ni ddisgwylir i fusnesau gael gwared ar y broblem amgylcheddol ehangach ond dylen nhw gymryd camau rhesymol i leihau ei heffaith ar gwsmeriaid.
Beth os bydd trigolion neu gwsmeriaid yn credu mai fy musnes i sy'n achosi'r broblem?
Mae'r Cyngor yn cynnal ymchwiliad cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth i nifer o ffynonellau posibl. Dylai trigolion a busnesau osgoi dyfalu ynghylch achos y broblem bresennol o ran clêr tra bod ymchwiliadau yn parhau.
Bydd unrhyw bryderon ynglŷn â safle penodol yn cael eu hasesu ar sail tystiolaeth sy'n cael ei chasglu gan swyddogion.
