Eisteddfod y Garreg Las yn dechrau y penwythnos hwn
3 diwrnod yn ôl
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dechrau y penwythnos hwn ac mae disgwyl i dros 150,000 o bobl ymweld â Llantwd i ddathlu gŵyl iaith a diwylliant fwyaf Cymru.
Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn ardal y Garreg Las eleni, sydd wedi'i henwi ar ôl y garreg las leol unigryw. Mae'r dalgylch yn ymestyn dros dair ardal — Sir Benfro, de Ceredigion, a gorllewin Sir Gâr. Bydd yr ardal hon yn dathlu cymeriad, diwylliant ac atyniadau unigryw'r tair sir drwy raglen gyffrous o gerddoriaeth fyw, arddangosiadau, sgyrsiau, gweithgareddau i blant a phrofiadau rhyngweithiol drwy gydol yr wythnos.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro yn ardal Pentre'r Garreg Las ar y Maes. Gall y rhai sy'n ymweld â Phentre'r Garreg Las edrych ymlaen at amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n arddangos y gorau o Sir Gâr, gan gynnwys:
|
Pwy |
Pryd |
Beth fydd yn digwydd |
|
Y Cardi Bach |
Dydd Sadwrn, 1 Awst, 2pm |
Camwch yn ôl mewn amser gydag Emyr Phillips wrth iddo gyflwyno stori'r Cardi Bach, sef y rheilffordd oedd yn cysylltu Hendy-gwyn ar Daf ac Aberteifi ac yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd cymunedau lleol am genedlaethau. |
|
Plant y Garreg Las |
Dydd Sul, 2 Awst, 11am |
Perfformiad o'r gân “Croeso i Fro'r Garreg Las” gan bobl ifanc o 50 o ysgolion cynradd ar draws Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion.
|
|
Sioe Deuluol Amgueddfa Wlân Cymru |
Dydd Sul, 2 Awst, 3pm |
Dewch i glywed straeon diddorol am ddiwydiant gwlân Cymru a dysgu mwy am y bobl, y traddodiadau a'r dreftadaeth sy'n rhan o un o ddiwydiannau pwysicaf y genedl.
|
|
Wes wes weth! |
Dydd Llun, 3 Awst, 12pm |
Bydd gwesteion o'r tair sir yn trafod eu gwahaniaethau tafodieithol. |
|
Blas o'r Fro |
Dydd Mawrth, 4 Awst, 4pm |
Ymunwch â Carwyn Graves i glywed y straeon a dysgu am y traddodiadau a'r cynnyrch sy'n rhoi blas unigryw i ardal y Garreg Las. Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gefnogi drwy Gynllun Grantiau Bach - Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru.
|
|
Ein Hafonydd, Ein Môr, Ein Data |
Dydd Mercher, 5 Awst, 3pm |
Monitro afonydd gorllewin Cymru dan arweiniad y gymuned leol. |
|
Blas o'r Fro gyda Lisa Fearn |
Dydd Mercher 5 Awst, 1pm a 4pm |
Cyfle i fwynhau arddangosiad coginio byw gan Lisa Fearn. Dewch i ddysgu am flasau lleol, syniadau newydd a'r straeon y tu ôl i'r cynhwysion sy'n gwneud ardal y Garreg Las mor arbennig. Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gefnogi drwy Gynllun Grantiau Bach - Gwyliau a Digwyddiadau Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru.
|
|
Y Llanw |
Dydd Gwener 7 Awst, 9:30am a 4:30pm |
Dewch i wylio perfformiad byw egnïol gan fand o Ysgol Bryngwyn, Llanelli.
|
|
Llesiant yn ardal y Garreg Las |
Dydd Gwener 7 Awst, 2pm |
Ymunwch â chynrychiolwyr o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y tair sir fydd yn cael trafodaeth am lesiant ar draws y rhanbarth.
|
Mae amserlen lawn o weithgareddau a chystadlaethau sy'n cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos ar gael ar wefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Rhaglen | Eisteddfod
Trafnidiaeth gyhoeddus i'r Maes:
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg bysiau gwennol rheolaidd i’r Maes o orsaf Caerfyrddin. Gwasanaeth bws gwennol am ddim fydd hwn a bydd y bysiau yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Eleni, gallwch chi ddefnyddio gwasanaeth bws TrawsCymru T5 yn uniongyrchol i'r Eisteddfod yn Llantwd o Aberteifi neu Abergwaun. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, mae gwasanaeth bws 460 yn darparu cyswllt rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi drwy Gastellnewydd Emlyn o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd angen newid bws yn Aberteifi i deithio ymlaen i'r Maes ar wasanaeth T5 neu ar y Bws Gwennol.
Os byddwch chi'n teithio mewn car, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn arwyddion melyn yr Eisteddfod i gyrraedd y Maes.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gyrraedd y Maes, ewch i wefan yr Eisteddfod.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
Rydyn ni'n hynod falch o fod yn rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu'r iaith Gymraeg, diwylliant Cymru a'n cymunedau wrth arddangos Sir Gâr. Byddwn i'n annog pawb i ymweld â'r Eisteddfod a phrofi popeth sydd ganddi i'w gynnig”.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Eisteddfod, ewch i'n gwefan.
