Sir Gaerfyrddin yn paratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2026
13 awr yn ôl
Mae llai na 50 diwrnod ar ôl tan Eisteddfod Genedlaethol 2026, sy'n cael ei galw'n Eisteddfod y Garreg Las, ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog ei gymunedau yn ardal y Garreg Las i gymryd rhan yn y dathliadau cyn yr Eisteddfod a'r paratoadau ar ei chyfer.
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw gŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru, a bydd y digwyddiad eleni yn cael ei gynnal rhwng 1 ac 8 Awst yn Llantwd, Sir Benfro.
Bydd cyfle i drigolion Sir Gaerfyrddin gymryd rhan yn y digwyddiad drwy wirfoddoli, perfformio a gweithgareddau dan arweiniad y gymuned yn y cyfnod cyn yr ŵyl.
Taith yr Arglwydd Rhys
Yn y cyfnod cyn yr Eisteddfod, mae cymunedau yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiadau dathlu rhad ac am ddim fel rhan o Daith yr Arglwydd Rhys, sy'n cynnwys cerddoriaeth a barddoniaeth. Mae'r lleoliadau yn cynnwys:
- 20 Mehefin, 12:00 – Cenarth
- 20 Mehefin, 16:30 – Castellnewydd Emlyn
Bydd y digwyddiadau hyn yn dod â stori'r Arglwydd Rhys yn fyw, gan gryfhau cysylltiadau ar draws y rhanbarth.
Ysbryd Cymunedol drwy 'Harddu’
Mae cymunedau ar draws gorllewin Sir Gaerfyrddin hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan ym mhrosiect addurno Harddu, sef menter flynyddol sy'n ceisio creu awyrgylch bywiog a chroesawgar i ymwelwyr.
Gall trigolion, ysgolion a grwpiau ddangos eu creadigrwydd drwy greu addurniadau a gwaith celf sy'n dathlu hunaniaeth leol a diwylliant Cymru.
Bydd gweithdy Harddu arbennig yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf 2026 ym Manor Wildlife Park, lle gall pobl greu cerfluniau draig gyda'r artist Anna Ryder-Richardson.
Bydd Eisteddfod y Garreg Las yn cael ei chynnal mewn dalgylch unigryw sy'n cynnwys Sir Benfro, de Ceredigion, a gorllewin Sir Gaerfyrddin, gan ddod â chymunedau at ei gilydd i ddathlu'r gorau o'r iaith Gymraeg a threftadaeth a chreadigrwydd Cymru.
Mae gan Eisteddfod 2026 arwyddocâd arbennig gan ei bod yn nodi 850 o flynyddoedd ers yr Eisteddfod gyntaf a gofnodwyd, sef yr un a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176.
Bydd y rhaglen wythnos o hyd yn cynnwys:
- Cystadlaethau corau a cherddoriaeth
- Digwyddiadau llenyddol a barddoniaeth
- Perfformiadau theatr
- Arddangosfeydd celf a chrefft
- Gweithgareddau a gweithdai cymunedol
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:
“Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhan hanfodol o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru, ac rydyn ni'n falch iawn y bydd cymunedau yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin yn chwarae rhan bwysig yng ngŵyl 2026. Mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu ein hiaith, ein treftadaeth a'n creadigrwydd, wrth groesawu ymwelwyr i'n rhanbarth.”
I gael rhagor o wybodaeth am brynu tocynnau, digwyddiadau sydd i ddod, a'r hyn y gallwch chi ddisgwyl ei weld yn yr Eisteddfod, ewch i Eisteddfod Genedlaethol 2026 - Cyngor Sir Caerfyrddin
