Sir Gaerfyrddin i gynnal Ras Gyfnewid Baton y Brenin fel rhan o Gemau'r Gymanwlad 2026
1 diwrnod yn ôl
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal Ras Gyfnewid Baton y Brenin ddydd Sadwrn, 20 Mehefin 2026 fel rhan o daith swyddogol baton Gemau'r Gymanwlad yn y DU.
Mae Ras Gyfnewid Baton y Brenin yn ddigwyddiad blaenllaw Gemau'r Gymanwlad ac mae'n symbol o undod, amrywiaeth a gwerthoedd a rennir ledled y Gymanwlad.
Am y tro cyntaf erioed, bydd pob cenedl a thiriogaeth y Gymanwlad yn derbyn eu Baton eu hunain ar gyfer eu dathliadau a gofynnwyd iddynt addasu ac addurno'r Baton hwn i gynrychioli eu diwylliant.
Bydd pob un o'r 74 Baton yn cael eu haduno yn Seremoni Agoriadol Glasgow 2026, lle bydd Baton yr Alban yn cael ei gyflwyno i'w Mawrhydi a'r neges yn cael ei darllen yn uchel i ddatgan bod y Gemau ar agor.
Mae Sir Gaerfyrddin wedi cael ei dewis fel un o nifer o leoliadau yn y DU i gynnal y Ras Gyfnewid, gan gynnig cyfle uchel ei broffil i arddangos y sir, dathlu cymunedau lleol a hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon a diwylliant. Mae'r digwyddiad yn cael ei gydlynu'n lleol gan dîm Hamdden Actif Cyngor Sir Caerfyrddin, gan weithio'n agos gyda sefydliadau partner.
Yn ystod ei daith drwy'r sir, bydd Baton y Brenin yn ymweld â chwe lleoliad, gan deithio ar feic, beicio, rhedeg, cerdded a cherbyd, gan dynnu sylw at hygyrchedd, teithio llesol a chysylltiad cymunedol. Ar hyd y llwybr, bydd pob un o'r deg camp sy'n ymddangos yng Ngemau'r Gymanwlad 2026 yn cael eu harddangos trwy arddangosfeydd gweithgareddau a sesiynau ymgysylltu mewn lleoliadau allweddol, gan helpu i ddod ag ysbryd a chyffro'r Gemau i breswylwyr.
Mae'r lleoliadau arfaethedig yn cynnwys Canolfan Pentre Awel yn Llanelli, lle bydd pêl-rwyd, nofio, bocsio a gymnasteg artistig yn cael eu harddangos; Academi Codi Pwysau Llanelli yng Ngholeg Sir Gâr; Canolfan Hamdden Dyffryn Aman, a fydd yn arddangos pêl-fasged ac athletau; Canolfan Hamdden Caerfyrddin, a fydd yn arddangos jiwdo; Clwb Bowlio Dan Do Bro Myrddin, a fydd yn arddangos bowlio ac yn gwneud cyhoeddiad ynghylch y gystadleuaeth Dylunio Baton i ysgolion; a Felodrom Caerfyrddin, a fydd yn arddangos beicio.
Bydd preswylwyr yn chwarae rhan ganolog yn y Ras Gyfnewid, gyda Chludwyr y Baton yn dod o bob rhan o Sir Gaerfyrddin. Bydd pwyslais yn cael ei roi ar gynnwys athletwyr cenedlaethol, pobl ifanc, gwirfoddolwyr ac unigolion sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:
Mae cynnal Ras Gyfnewid Baton y Brenin yn foment arwyddocaol i Sir Gaerfyrddin, gan roi'r sir yn gadarn ar lwyfan cenedlaethol fel rhan o Gemau'r Gymanwlad.
Bydd y Ras Gyfnewid yn teithio trwy gymunedau ledled y sir, gyda phob un o'r deg camp yng Ngemau'r Gymanwlad yn cael eu harddangos mewn amrywiaeth o leoliadau lleol a phreswylwyr yn cymryd rhan uniongyrchol fel Cludwyr y Baton.
Mae'r Ras Gyfnewid yn darparu llwyfan pwerus i ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael yn lleol a chreu manteision parhaol i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin."
I gael rhagor o fanylion, gan gynnwys amseroedd a gwybodaeth am lwybrau, ewch i: Ras Gyfnewid Baton y Brenin - Cyngor Sir Caerfyrddin
