Ras Gyfnewid Baton y Brenin Sir Gâr
20 Mehefin 2026
Mae Ras Gyfnewid Baton y Brenin yn ddigwyddiad blaenllaw sy’n rhan o Gemau'r Gymanwlad ac mae'n symbol o undod, amrywiaeth a gwerthoedd a rennir ledled y Gymanwlad.
Mae'r Baton yn cario neges gan Ei Fawrhydi y Brenin ac yn teithio trwy genhedloedd a thiriogaethau'r Gymanwlad ledled y byd cyn cyrraedd Glasgow, yr Alban lle bydd Seremoni Agoriadol y Gemau yn cael ei chynnal.
Bydd y Gemau yn cael eu cynnal rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst 2026, gan groesawu 3,000 o athletwyr o hyd at 74 o genhedloedd a thiriogaethau.
Bedair blynedd ar ôl yr ymweliad diwethaf yn 2022, mae Sir Gaerfyrddin wedi'i dewis fel un o'r lleoliadau i gynnal Ras Gyfnewid y Baton yn ystod ei thaith yn y DU gyda'r digwyddiad yn cael ei gydlynu gan Actif.
Yn ystod y daith, bydd Baton y Brenin yn ymweld â 6 lleoliad ledled y sir. Ar hyd y llwybr, bydd pob un o'r 10 camp sy'n ymddangos yng Ngemau'r Gymanwlad 2026 - athletau, nofio, beicio, pêl-rwyd, bocsio, gymnasteg, jiwdo, codi pwysau, bowlio a phêl-fasged - yn cael eu harddangos trwy arddangosfeydd gweithgareddau a sesiynau ymgysylltu, gan ddod â'r Gemau yn fyw i drigolion lleol.
Gyda charfan Tîm Cymru yn cael ei chyhoeddi'r diwrnod cynt wrth i'r ras gyrraedd Cymru (19 Mehefin), mae'r ymweliad arbennig hwn yn gyfle gwych i gymunedau, ysgolion, clybiau a theuluoedd ddod at ei gilydd a dathlu chwaraeon, cynhwysiant ac ysbryd cymunedol.
Lleoliadau:
- Canolfan Pentre Awel, Llanelli
- Academi Codi Pwysau Llanelli
- Canolfan Hamdden Dyffryn Aman
- Canolfan Hamdden Caerfyrddin
- Clwb Bowlio Dan Do Bro Myrddin
- Felodrom Caerfyrddin
Yn ogystal ag arddangos chwaraeon, bydd trigolion lleol yn cael eu cynnwys fel Cludwyr y Baton, gydag unigolion yn cynnwys athletwyr cenedlaethol, pobl ifanc, gwirfoddolwyr a'r rheini sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymunedau yn cael eu dewis i gymryd rhan.
Yr Amserlen
| Lleoliad | Amseroedd Digwyddiadau | Pryd fydd Baton yn bresennol | Chwaraeon a Gweithgareddau |
|---|---|---|---|
| Canolfan Pentre Awel | 08:45 tan 12:00 | 09:00 tan 09:45 | Pêl-rwyd, Nofio, Bocsio a Gymnasteg Artistig |
| Academi Codi Pwysau Llanelli | 10:00 tan 12:00 | 10:15 tan 10:45 | Codi Pwysau |
| Canolfan Hamdden Dyffryn Aman | 10:00 tan 13:00 | 11:15 tan 11:45 | Pêl-fasged ac Athletau |
| Canolfan Hamdden Caerfyrddin | 11:00 tan 14:00 | 12:30 tan 13:00 | Jiwdo |
| Clwb Bowlio Dan Do Bro Myrddin | 13:00 tan 14:00 | 13:15 tan 13:35 | Bowlio a chyhoeddiad am y gystadleuaeth i ysgolion 'Dylunio Baton' |
| Felodrom Caerfyrddin | 13:00 tan 15:00 | 13:40 tan 14:30 | Beicio |