Rhybuddion am y tywydd
Rhybudd tywydd melyn ar gyfer gwynt
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Tywydd Melyn ar gyfer GWYNT sy’n effeithio ar Gymru gyfan rhwng 00:00 a 21:00 ddydd Sul, 22 Rhagfyr.
Bydd gennym griwiau ychwanegol wrth gefn yn ystod y cyfnod hwn ac efallai y bydd rhywfaint o darfu oherwydd coed sydd eisoes wedi gwanhau yn dilyn Storm Darragh.
Cymerwch ofal ar y ffyrdd.
Rhowch wybod i ni am goed sydd wedi cwympo drwy ein ffurflen ar-lein: Rhoi gwybod am goed peryglus / wedi cwympo.
Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd i gael rhagor o wybodaeth.