Digwyddiadau a Dyddiadau Codi Ymwybyddiaeth
25 Tachwedd: Diwrnod y Rhuban Gwyn
Bydd Neuadd y Sir yn cael ei goleuo mewn porffor ar noson 25 Tachwedd i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn, diwrnod sy'n cael ei gynnal yn flynyddol fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod. Bydd Baner y Rhuban Gwyn, Baner Cymru, a Baner Wcráin hefyd yn cael eu chwifio yn Neuadd y Sir, Neuadd y Dref – Llanelli a Thŷ Parc y Rhun – Rhydaman i nodi'r achlysur. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan White Ribbon UK.
