Digwyddiadau a Dyddiadau Codi Ymwybyddiaeth
Diwrnod VJ
Mae dydd Gwener, 15 Awst yn dynodi 80 mlynedd ers Diwrnod VJ (Buddugoliaeth dros Japan) sy'n coffáu'r rhai wasanaethodd yn y Dwyrain Pell a diwedd swyddogol yr Ail Ryfel Byd.
Am 12pm bydd dwy funud o dawelwch cenedlaethol i nodi'r achlysur, ac o ddydd Gwener, 15 Awst tan ddydd Llun, 18 Awst bydd Baner Cymru, Baner Wcráin a Jac yr Undeb yn cael eu chwifio ym mhrif adeiladau'r Cyngor yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.