Ydych chi'n gallu mynd yr ail filltir i helpu'r rhai mewn angen yn eich cymuned?
2 awr yn ôl
Mae'r tîm Ceir Cefn Gwlad yn chwilio am ragor o drefnwyr a gyrwyr gwirfoddol yn ardal Rhydaman a'r cyffiniau, yn ogystal ag ardaloedd gwledig Sir Gâr, i helpu trigolion na fyddent fel arall yn gallu gwneud teithiau lleol hanfodol.
Mae Ceir Cefn Gwlad yn gynllun rhannu ceir cymunedol. Mae gwirfoddolwyr yn sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion teithio unigol neu achlysurol yn gallu cael mynediad at ofal iechyd, siopa, gwaith a lleoliadau hanfodol eraill yn Sir Gaerfyrddin.
Gall gwirfoddolwyr helpu ar adegau sy'n gyfleus iddyn nhw, boed hynny am ychydig oriau neu ambell ddiwrnod yr wythnos.
O yrru'r rhai mewn angen, cydlynu gwasanaethau, neu roi help llaw lle bynnag y gallwch, mae hon yn rôl foddhaol i bawb.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Mae Ceir Cefn Gwlad yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu trigolion ar draws Sir Gâr i barhau i fod yn gysylltiedig â'u cymunedau a chael mynediad i wasanaethau hanfodol. Boed hynny'n mynd i apwyntiadau gofal iechyd, siopa neu deithio i'r gwaith, gall y cymorth gan ein gwirfoddolwyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Rydyn ni bob amser yn awyddus i groesawu gyrwyr a threfnwyr gwirfoddol newydd, yn enwedig yn Rhydaman a'n cymunedau gwledig. Gall ychydig oriau yn unig wneud gwahaniaeth mawr ac mae gwirfoddoli yn ffordd werth chweil o helpu pobl a allai fel arall gael trafferth gwneud teithiau pwysig."
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/priffyrdd-teithio-a-pharcio/ceir-cefn-gwlad/
