Y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gwneud gwahaniaeth parhaol i gymunedau Sir Gaerfyrddin
9 awr yn ôl
Mae grwpiau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin wedi cael effaith sylweddol ar bobl a lleoedd lleol drwy sicrhau buddsoddiad gwerth dros £6 miliwn drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r rhaglen wedi cefnogi 96 o brosiectau ledled Sir Gaerfyrddin, gan helpu grwpiau a sefydliadau lleol i wella cyfleusterau, cryfhau ymgysylltu cymunedol a mynd i'r afael â heriau lleol. Mae'r cyllid wedi cefnogi ystod eang o fentrau, gan gynnwys gwella mynediad at wasanaethau, gwella cyfleusterau chwaraeon a hamdden, mynd i'r afael â thlodi, hyrwyddo'r economi gylchol, dathlu treftadaeth a diwylliant, a chyflawni prosiectau amgylcheddol a gwyrdd. Gyda'i gilydd, mae'r mentrau hyn wedi ymateb i anghenion lleol, wedi creu manteision parhaol i drigolion ac wedi helpu i adeiladu cymunedau cryfach a mwy gwydn ledled y sir.
Mae’r rhaglen wedi cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau, gan gynnwys menter trafnidiaeth gymunedol Dolen Teifi, Llyfrgell Pethau Pawb, gwelliannau i’r cyfleusterau yng Ngorsaf Bad Achub Glanyfferi, a gwaith i uwchraddio mannau chwarae i blant a chyfleusterau chwaraeon lleol. Dyma rai enghreifftiau yn unig o'r llu o brosiectau sydd wedi elwa o'r gronfa ac wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae llwyddiant y rhaglen wedi bod yn bosibl diolch i ymroddiad ac ymrwymiad grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr a sefydliadau lleol sydd wedi gweithio'n ddiflino i wireddu prosiectau a sicrhau’r budd mwyaf posibl o’r cyllid hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r Gronfa Ffyniant a Rennir wedi galluogi grwpiau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin i gyflawni prosiectau sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i bobl a lleoedd lleol.
Mae llwyddiant y prosiectau hyn yn adlewyrchu ymroddiad ac ymrwymiad ein gwirfoddolwyr a'n sefydliadau cymunedol. Rydyn ni'n falch o ddathlu eu cyflawniadau a'r effaith barhaol y mae'r buddsoddiad hwn wedi'i chael ar y sir."
Gall trigolion gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau a'u cyflawniadau drwy fynd i dudalen we Cronfa Cymunedau Cynaliadwy Cyngor Sir Caerfyrddin
Er bod y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy bellach wedi dod i ben, mae amrywiaeth o gyfleoedd cyllido, cyngor a gwasanaethau cymorth yn parhau i fod ar gael i grwpiau cymunedol a sefydliadau sy'n dymuno datblygu prosiectau yn y dyfodol. Mae Biwro'r Cyngor yn darparu gwybodaeth am gyfleoedd cyllido, hyfforddiant, rhwydweithio a gwasanaethau cymorth i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ledled Sir Gaerfyrddin.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Biwro Cyngor Sir Caerfyrddin.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd cyllido, cymorth a newyddion cymunedol, cofrestrwch i dderbyn Cylchlythyr y Biwro.
