Y Cyngor yn lansio ymgynghoriad i helpu i lywio'r ddarpariaeth gofal plant yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol

12 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd rhieni a gofalwyr, darparwyr gofal plant, cyflogwyr, plant a phobl ifanc, darparwyr addysg a sefydliadau partner i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau gofal plant ledled y sir.

Mae'r Cyngor wedi lansio ymgynghoriad i lywio ei Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant ar gyfer 2027 i 2032, sef asesiad statudol sy'n helpu i nodi a oes digon o ofal plant ar gael i ddiwallu anghenion teuluoedd yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 2 Tachwedd 2027.

Bydd yr asesiad yn cynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Gofal Plant 2006 a bydd yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion gofal plant nawr ac yn y dyfodol ar draws y sir.

Nod yr ymgynghoriad yw casglu barn gan rieni a gofalwyr, darparwyr gofal plant, cyflogwyr, plant a phobl ifanc, darparwyr addysg a rhanddeiliaid eraill. Bydd yr adborth yn helpu i nodi'r galw sydd heb ei ddiwallu, y rhwystrau i gael mynediad at ofal plant, yr heriau o ran recriwtio a chadw'r gweithlu, cynaliadwyedd y ddarpariaeth gofal plant, ac argaeledd gwasanaethau gofal plant cyfrwng Cymraeg, dwyieithog ac i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd y canfyddiadau yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â data demograffig a data am y farchnad gofal plant i lywio Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2027 i 2032 a'r Cynllun Gweithredu cysylltiedig. Bydd y dogfennau terfynol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a byddant yn helpu i lywio'r gwaith o gynllunio a datblygu gwasanaethau gofal plant ledled y sir yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd Integredig a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion:

Mae gofal plant hygyrch o safon uchel yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi plant, teuluoedd a chymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.
Rydyn ni eisiau clywed gan rieni, darparwyr gofal plant, cyflogwyr, darparwyr addysg, plant a phobl ifanc fel y gallwn ddeall yn well yr anghenion a'r heriau gofal plant sy'n cael eu profi ledled y sir.
Bydd yr adborth rydyn ni'n ei gael yn ein helpu i nodi blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod gwasanaethau gofal plant yn parhau i ddiwallu anghenion teuluoedd yn Sir Gaerfyrddin."

Bydd amryw o gyfleoedd i gymryd rhan, gan gynnwys arolygon, cyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithgareddau ymgysylltu wedi'u targedu. Bydd modd cyfrannu yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd cymorth ar gael lle bo angen.

Gall preswylwyr gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy lenwi'r arolwg ar-lein: https://ymateb.gov.wales/s/PN47J5/

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.