Y Cyngor yn chwilio am help i adnabod unigolyn yn dilyn trosedd baw cŵn

14 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am gael help i adnabod unigolyn sydd wedi cael ei weld yn peidio â chodi baw ci yn Rhydaman.

Mae'r lluniau sydd i'w gweld ar deledu cylch cyfyng yn dangos hyn yn digwydd yn Heol Iscennen, Rhydaman.

Mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd trigolion yn gallu helpu i adnabod yr unigolyn. Gallwch chi roi gwybod i ni ar ein gwefan neu ffonio 01267 234567.

Nodyn ar gyfer golygyddion: Mae'r wybodaeth hon yn cael ei datgelu o dan yr esemptiad yn narpariaethau Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data yn Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 2 (1) (c) o Ddeddf Diogelu Data 2018 gan y byddai peidio â datgelu'r lluniau hyn yn niweidiol i'r pwrpas o ddal neu erlyn troseddwr.”