Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyflwyno hunaniaeth weledol newydd
14 awr yn ôl
Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyflwyno hunaniaeth weledol newydd ar gyfer y gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol sy'n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Mae'r gwasanaeth yn gweithio i ddod o hyd i gartrefi diogel, cariadus a pharhaol i blant na allant fyw gyda'u teuluoedd geni, a hynny gan gefnogi pobl sydd wedi'u mabwysiadu, teuluoedd mabwysiadu a theuluoedd geni trwy gydol y daith fabwysiadu.
Mae'r hunaniaeth weledol newydd yn adlewyrchu'r cysylltiadau sydd wrth wraidd mabwysiadu. Gan arddel y themâu perthyn, cymorth ac undod, mae'n cynrychioli'r bobl y mae mabwysiadu'n cyffwrdd â'u bywydau a'r perthnasoedd sy'n helpu plant i ffynnu.
Mae hefyd yn adlewyrchu'r bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru o dan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Er bod yr hunaniaeth weledol wedi newid, mae pwrpas y gwasanaeth yn aros yr un fath. Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn parhau i ddarparu cymorth o safon uchel, sy'n rhoi plant yn y canol ac sy'n gweithio gyda theuluoedd ledled y rhanbarth i ddod o hyd i gartrefi diogel, sefydlog a chariadus i blant.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:
Mae mabwysiadu yn rhoi cyfle i blant dyfu i fyny mewn teulu diogel, cariadus a pharhaol. Y tu ôl i bob mabwysiad, mae pobl yn dod at ei gilydd i gefnogi plentyn a'i helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair. Mae'r hunaniaeth weledol newydd hon yn adlewyrchu'r gwerthoedd sydd wrth wraidd Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal â'r bartneriaeth gref rhwng Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Yn bwysicaf oll, mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i blant a theuluoedd ledled ein rhanbarth.”
Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn parhau i annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu. Mae gan lawer o bobl eisoes y rhinweddau sydd eu hangen i ddarparu cartref cariadus a sefydlog i blentyn, ac mae cymorth ar gael ar bob cam o'r daith fabwysiadu.
Ochr yn ochr â'r hunaniaeth weledol newydd, mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi lansio gwefan newydd, sy'n darparu gwybodaeth am fabwysiadu, y cymorth sydd ar gael a sut i gymryd y cam cyntaf tuag at fabwysiadu.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.
