Lansio sesiynau newydd ’Siarad Menopos' yn Sir Gaerfyrddin

15 awr yn ôl

Mae menywod ledled Sir Gaerfyrddin sy'n profi perimenopos, menopos neu ôl-menopos yn cael eu gwahodd i ymuno â chyfres newydd o sesiynau cymunedol am ddim, cyfeillgar ac addysgiadol.

Bydd y sesiynau am ddim, sy'n dechrau ar 15 Medi 2026, yn cael eu cynnal bob yn ail ddydd Mawrth, 6:30pm – 8pm yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig, SA32 7LQ. Dyma le croesawgar a chefnogol i bobl ddysgu mwy am y menopos, cael mynediad at wybodaeth ymarferol a rhannu profiadau.

Mae'r sesiynau Siarad Menopos newydd yn cael eu cyflwyno drwy bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Bydd pob sesiwn yn dechrau gyda sgwrs fer sy'n canolbwyntio ar bwnc gwahanol sy'n gysylltiedig â'r menopos, gan gynnwys symptomau, opsiynau triniaeth, maeth, iechyd meddwl, iechyd pelfig, gweithgarwch corfforol a hunan-ofal. Yna bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i sgwrsio, ymlacio a chysylltu ag eraill mewn amgylchedd cefnogol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod o'r Cabinet yng Nghyngor Sir Caerfyrddin:

"Mae'r sesiynau hyn yn cynnig cyfle i fenywod ddod at ei gilydd, dysgu mwy am bynciau sy'n gysylltiedig â'r menopos a meithrin cysylltiadau ag eraill a allai fod ar gam tebyg yn eu bywydau. Rydym yn gobeithio y bydd cyfranogwyr yn gweld y sesiynau yn groesawgar, yn addysgiadol ac yn fuddiol."

Dywedodd Dr Kerry Phillips, Arweinydd Clwstwr Tywi Taf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: 

"Mae'r menopos yn effeithio ar bawb yn wahanol, a gall cael mynediad at wybodaeth ddibynadwy a chymorth lleol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les a hyder menywod. Bydd y gwasanaeth hwn yn helpu menywod i archwilio'r materion sydd bwysicaf iddyn nhw a theimlo eu bod wedi'u grymuso i wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd. 

"Mae cysylltiadau cymunedol yn hynod bwysig yn ystod cyfnodau o newid, ac mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i helpu menywod i deimlo'n llai ynysig wrth iddynt lywio'r cyfnod hwn o fywyd."

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle am ddim, e-bostiwch neu llenwch y ffurflen gofrestru.