Gyrrwr didrwydded yn euog yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth cludiant ysgol
14 awr yn ôl
Mae gyrrwr tacsi didrwydded wedi cael ei ddedfrydu yn dilyn ymchwiliad gan Wasanaeth Trwyddedu Cyngor Sir Caerfyrddin.
Cafwyd Mr Derrick Lewis yn euog yn Llys Ynadon Llanelli ar 4 Medi 2026 ar ôl cludo plant i ysgol mewn cerbyd llogi preifat trwyddedig ar 9 Chwefror 2026, er nad oedd ganddo'r Drwydded Yrru Ddeuol angenrheidiol ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat.
Daeth y drosedd i'r amlwg pan oedd swyddogion o dimau Cludiant Ysgol a Thrwyddedu'r Cyngor yn cynnal gwiriadau cydymffurfio yn Ysgol Heol Goffa, Llanelli. Yn ystod yr arolygiad, nododd swyddogion fod Mr Lewis yn gyrru cerbyd llogi preifat trwyddedig er nad oedd ganddo drwydded i wneud hynny.
Ni fynychodd Mr Lewis y llys a phrofwyd yr achos yn ei absenoldeb.
Cafodd Mr Lewis ddirwy o £660, a gorchmynnwyd iddi dalu costau erlyniad o £1,778.50 a gordal dioddefwr o £264, cyfanswm o £2,702.50. Mae'r swm yn daladwy o fewn 28 diwrnod.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin â chyfrifoldeb dros orfodaeth:
Mae diogelwch a llesiant disgyblion sy'n teithio i'r ysgol ac oddi yno yn bwysig iawn. Mae'n ofynnol i yrwyr trwyddedig fodloni safonau llym a chael y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn addas i gludo aelodau o'r cyhoedd, gan gynnwys plant.
Mae'r erlyniad hwn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i orfodi deddfwriaeth trwyddedu a chymryd camau priodol lle mae unigolion yn torri'r gyfraith. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod gwasanaethau cludiant ysgol yn parhau i fod yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn cydymffurfio."
