Dymchwel hen safle Wilko i gefnogi'r gwaith o adfywio canol y dref

1 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cadarnhau y bydd y cynllun i ddymchwel hen adeilad Wilko yn golygu y bydd modd ailddefnyddio'r safle unwaith eto a chefnogi adfywiad ehangach canol y dref.

Mae'r Cyngor yn parhau i fod mewn trafodaethau masnachol gyda phartïon sydd â diddordeb am ddefnydd y safle yn y dyfodol, gan gynnwys trafodaethau gyda darpar denant a fyddai o fudd sylweddol i'r dref. Nid oes cytundeb ffurfiol o'r fath wedi cael ei wneud eto, a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu â’r cyhoedd pan fydd y Cyngor mewn sefyllfa i wneud hynny.

Er bod y rhybudd ymlaen llaw ar gyfer y gwaith dymchwel yn cynnwys dyddiad arfaethedig o 26 Hydref 2026, mae'r rhaglen ehangach wedi newid ers hynny ac mae disgwyl i'r gwaith dymchwel ddechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Bydd y gwaith dymchwel yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Trawsnewid Trefi. Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynnwys y dyraniad cyllid hwn o fewn rhaglen gyfalaf y Cyngor er mwyn galluogi'r gwaith i fynd rhagddo heb unrhyw gost i'r Cyngor.

Roedd arolygon cyflwr o'r adeilad a gafodd eu cyflawni adeg ei brynu wedi nodi y byddai angen buddsoddiad sylweddol i sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd y safonau cyfredol cyn y gellid ei ailosod i denant yn y dyfodol. Amcangyfrifir y byddai gwaith cynnal a chadw hanfodol i'r to yn unig yn costio tua £1 miliwn. Daeth asesiad y Cyngor i'r casgliad na fyddai ymgymryd â'r gwaith hwn yn cynrychioli gwerth am arian ac mai dymchwel yw'r opsiwn mwyaf cost-effeithiol, gan fod yr adeilad wedi cyrraedd diwedd ei oes o ran defnydd.

Mae ailddatblygu'r safle hefyd yn rhoi cyfle i wella'r maes parcio presennol, gan nad yw'n bodloni safonau modern mwyach.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Hazel Evans:

Rydyn ni'n croesawu diddordeb y cyhoedd yn hen safle Wilko ac yn rhannu barn y gymuned bod yn rhaid i ddatblygiad yn y dyfodol gefnogi adfywiad ehangach y dref. 
Gyda Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith dymchwel yn llawn, a gwaith hanfodol i'r to yn unig yn cael ei amcangyfrif tua £1 miliwn, dymchwel yw'r ffordd fwyaf cost-effeithiol o ddatgloi potensial y safle a'i baratoi ar gyfer defnydd hirdymor cynhyrchiol.”

Dywedodd Gweinidog Cabinet Llywodraeth Cyrmu dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian:

Mae hwn yn gam ymlaen sydd i'w groesawu i ganol tref Caerfyrddin. Mae clirio'r safle hwn yn golygu mwy na dymchwel yn unig. Mae'n ymwneud â chreu'r amodau ar gyfer defnydd cynhyrchiol a hirdymor sy'n cefnogi adfywiad parhaus y dref.  
Rwy'n falch bod cyllid Llywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Trawsnewid Trefi yn galluogi Cyngor Sir Caerfyrddin i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y safle yn cael ei ddefnyddio unwaith eto mewn ffordd fydd o fudd i'r gymuned leol a'r busnesau."

Yn dilyn ymholiad a wnaed ar ran Buzz Parks, mae'r Cyngor hefyd wedi cynnig trafod cyfleoedd posib eraill yn y dref gyda pherchnogion y cwmni. Lle nad yw safleoedd yn eiddo i'r Cyngor, byddai'n barod i helpu i hwyluso trafodaethau gyda'r tirfeddianwyr neu'r landlordiaid perthnasol.

Mae'r datganiad hwn yn nodi safbwynt y Cyngor mewn perthynas â safle Parc y Brodyr Llwyd, a bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf pan fydd datblygiadau gyda phartïon sydd â diddordeb yn symud ymlaen.