Dweud eich dweud ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Sir Gaerfyrddin

18 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn diweddaru ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM), ac mae trigolion yn cael eu hannog i ddweud eu dweud.

Mae'r map yn nodi'r llwybrau cerdded, olwyno a beicio presennol ar draws y sir, ynghyd â gwelliannau arfaethedig, awgrymiadau a llwybrau y bydd y Cyngor Sir yn ceisio eu datblygu a'u gweithredu dros y 15 mlynedd nesaf.

Gwahoddir trigolion i roi adborth ar y llwybrau a'r ychwanegiadau awgrymedig fel y nodir ar y map. Ni fyddwn yn gallu ystyried ymhellach unrhyw lwybrau nad ydynt wedi'u cynnwys ar y map, gan mai dim ond y llwybrau sydd ar y map fydd yn gymwys i gael cyllid posibl gan Lywodraeth Cymru neu ffynonellau eraill yn y dyfodol.

Dewch draw i sesiwn galw heibio anffurfiol i drafod y Diweddariad ATNM, gofyn cwestiynau a rhoi adborth rhwng 2pm a 6pm ar:

•    21 Medi 2026 yn Llyfrgell Llanelli
•    22 Medi 2026 yn Llyfrgell Caerfyrddin
•    24 Medi 2026 yn Llyfrgell Rhydaman

Fel arall, dywedwch eich dweud ar-lein drwy wefan Cyngor Sir Caerfyrddin neu e-bostiwch. Bydd yr ymgynghoriad yn gorffen ar 26 Hydref 2026.

Gallwch ofyn am gopïau papur o'r ymgynghoriad yng Nghanolfannau Hwb y Cyngor Sir yn Rhydaman, Caerfyrddin neu Lanelli.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: 

Bydd y Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn helpu i lunio sut rydyn ni'n gwella ac yn ehangu cyfleoedd cerdded, olwyno a beicio ledled Sir Gaerfyrddin dros y blynyddoedd i ddod. Mae'r map yn nodi llwybrau presennol yn ogystal â chysylltiadau arfaethedig yn y dyfodol, ond mae'n hanfodol ein bod yn clywed yn uniongyrchol gan drigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau lleol."