Cyngor Sir Caerfyrddin i gyflwyno awr o barcio am ddim ym mhob maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor i gefnogi canol trefi, gwasanaethau lleol a'r economi leol
21 awr yn ôl
Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno ar newidiadau i ffioedd parcio oddi ar y stryd yn ei gyfarfod ddydd Llun 7 Medi 2026, i gynnwys awr o barcio am ddim fesul ymweliad ym mhob un o'r 67 maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor ledled y sir.
Ar ôl cyfnod cychwynnol o awr o barcio am ddim, bydd meysydd parcio canol tref yn Llanelli a Chaerfyrddin yn codi ffi o £2 am 2 awr, £3 am 3 awr neu £4 drwy'r dydd. Bydd meysydd parcio yn Rhydaman a threfi gwledig y sir yn codi tâl o £2 ar ôl yr awr gyntaf am hyd at 3 awr, neu £2.50 drwy'r dydd. Ni fydd y ffioedd hyn yn newid am y tair blynedd nesaf.
Fel rhan o'r strategaeth, bydd tocynnau rhatach am ddau ddiwrnod neu fwy ar gael i'r rhai sy'n defnyddio meysydd parcio canol tref yn rheolaidd, ac ni fydd diwrnodau parcio am ddim Cynghorau Tref yn cael eu cynnig rhagor.
Mae'r strategaeth y cytunwyd arni wedi'i datblygu yn dilyn adolygiad o'r ddarpariaeth parcio oddi ar y stryd a oedd yn ystyried patrymau defnydd, perfformiad ariannol, parcio am ddim a gorfodi. Nododd yr adolygiad angen sylweddol am barcio arhosiad byr i gefnogi canol trefi, busnesau lleol a gwasanaethau hanfodol, gan annog ymweliadau amlach a chefnogi gweithgarwch economaidd ar draws cymunedau Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Bydd y strategaeth ddiwygiedig ar gyfer parcio oddi ar y stryd yn darparu system syml, teg a hygyrch ar gyfer parcio ar draws Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys awr o barcio am ddim fesul ymweliad.
Trwy ddarparu awr o barcio am ddim, rydyn ni'n ei gwneud hi'n haws i breswylwyr ac ymwelwyr fynd i ganol ein trefi a'n cymunedau gwledig, p'un a ydyn nhw'n siopa'n lleol, yn ymweld â busnesau, yn mynychu apwyntiadau, yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus neu'n cefnogi atyniadau lleol.
Mae'r dull hwn yn cydnabod y rôl bwysig y mae canol ein trefi yn ei chwarae yn yr economi leol a bydd yn helpu i annog mwy o ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol a chreu lleoedd bywiog, hygyrch i bobl fyw, gweithio ac ymweld â nhw. Ochr yn ochr â buddsoddiad parhaus y Cyngor Sir mewn teithio llesol a chysylltiadau trafnidiaeth gynaliadwy, bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o ddewis i bobl o ran sut maen nhw'n cyrraedd gwasanaethau, cyflogaeth, siopau a chyrchfannau hamdden ledled y sir.”
Mae'r strategaeth yn cyd-fynd â pholisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, gan gynnwys Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a'r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol, Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru, a Chynllun Datblygu Lleol (CDLl) a Strategaeth Gorfforaethol Sir Gaerfyrddin.
