Cyllid newydd i helpu i fynd i'r afael â sbwriel gwm cnoi ledled Sir Gaerfyrddin

1 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau grant gan y Tasglu Gwm Cnoi, sy'n cael ei weinyddu gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Brydain yn Daclus, i helpu i waredu gwm cnoi o strydoedd lleol a lleihau sbwriel gwm cnoi ar draws y sir.

Mae'r Cyngor wedi cael £27,500 i gefnogi'r gwaith o waredu gwm cnoi o balmentydd a mannau cyhoeddus, gan hefyd annog trigolion ac ymwelwyr i waredu gwm yn gyfrifol.

Mae CSC yn un o 50 o gynghorau ledled y DU i wneud cais llwyddiannus am gyllid gan y Tasglu Gwm Cnoi, sydd bellach yn ei bumed flwyddyn.

Bydd y cyllid yn targedu lleoliadau lle mae sbwriel gwm cnoi yn cael yr effaith fwyaf ar olwg Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys glanhau ardaloedd cymunedol yn drylwyr yng nghanol prif drefi'r sir i gael gwared ar fannau sydd wedi'u staenio gan gwm ers amser maith o balmentydd a mannau i gerddwyr, yn ogystal â mynd i'r afael â gwm ar gelfi stryd fel meinciau, biniau a seilwaith cyhoeddus arall.

Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â gweithredwyr Tîm Tacluso'r Cyngor, gan helpu i wella llecynnau cyhoeddus, gwella golwg canol trefi allweddol a chreu amgylchedd glanach sy'n fwy croesawgar i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.

Ochr yn ochr â'r rhaglen lanhau, bydd y cyllid hefyd yn cefnogi mentrau sy'n anelu at annog pobl i waredu gwm cnoi yn gyfrifol a helpu i atal sbwriel yn y dyfodol.

Mae cynllun grant y Tasglu Gwm Cnoi, a gafodd ei sefydlu gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ac sy'n cael ei redeg gan yr elusen Cadwch Brydain yn Daclus, yn helpu awdurdodau lleol i lanhau sbwriel gwm a buddsoddi mewn ymgyrchoedd newid ymddygiad hirdymor.

Mae'r Tasglu yn cael ei ariannu gan wneuthurwyr gwm mawr, gan gynnwys Mars Wrigley a Perfetti Van Melle, drwy fuddsoddiad o hyd at £10 miliwn dros bum mlynedd.

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r Tasglu wedi dyfarnu grantiau gwerth mwy na £6.46 miliwn ac wedi ariannu gwaith glanhau ar gyfer dros 4.15 miliwn metr sgwâr o balmentydd ledled y DU.

Roedd gwaith monitro a gwerthuso gan Behaviour Change, menter gymdeithasol ddi-elw, wedi canfod bod ardaloedd sy'n cael cyllid wedi gweld gostyngiadau o hyd at 86% mewn sbwriel gwm cnoi yn y ddau fis cyntaf ar ôl gwaith glanhau wedi'i dargedu a gosod arwyddion wedi'u dylunio'n benodol. Roedd y gostyngiadau hyn yn dal i gael eu gweld chwe mis yn ddiweddarach.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Rydym yn falch iawn o dderbyn y cyllid hwn gan y Tasglu Gwm Cnoi. Gall sbwriel gwm cnoi fod yn anodd ac yn gostus i'w waredu, felly bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i wella golwg ein canol trefi a'n mannau cyhoeddus ar draws Sir Gaerfyrddin.
Gan weithio gyda'n Tîm Tacluso, byddwn yn targedu rhai o'r ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf gan staenio gwm cnoi, gan helpu i greu amgylcheddau glanach a mwy croesawgar i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Mae cadw Sir Gaerfyrddin yn lân yn gyfrifoldeb ar y cyd, ac rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn annog pawb i gael gwared ar eu gwm cnoi yn iawn gan ymfalchïo yn y cymunedau lle maent yn byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw."

Yn ôl Cadwch Brydain yn Daclus, mae tua 77% o strydoedd Lloegr a 99% o safleoedd manwerthu wedi'u staenio â gwm cnoi.

Dywedodd Prif Weithredwr Cadwch Brydain yn Daclus, Allison Ogden-Newton OBE:

Er bod sbwriel gwm cnoi yn parhau i fod yn ddolur llygad yn ein mannau cyhoeddus, y newyddion da yw bod y cynllun hwn eisoes yn ysgogi gwelliannau mawr.  
Fel elusen amgylcheddol, rydym yn gwybod bod pob darn o gwm sy'n cael ei ollwng yn anghyfrifol yn niweidio'r amgylchedd, gan gymryd blynyddoedd i bydru'n naturiol, ac mae hyn hefyd yn golygu bod angen i drethdalwyr dalu'r bil am waith glanhau costus. 
Gall pawb yn Sir Gaerfyrddin fod yn rhan o'r gwaith o greu strydoedd glanach, gwyrddach i bawb trwy roi eu gwm yn y bin.”