Cartrefi ynni-effeithlon newydd ym Mharc Pendre, Cydweli
12 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cwblhau datblygiad tai newydd ym Mharc Pendre, Cydweli, sy'n darparu 16 o gartrefi ynni-effeithlon o ansawdd uchel i drigolion lleol.
Mae'r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o gartrefi sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu ystod o anghenion tai: pedwar cartref ag un ystafell wely, chwe chartref â dwy ystafell wely, pedwar cartref â thair ystafell wely a dau gartref â phedair ystafell wely. Mae pob cartref wedi'i adeiladu gan feddwl am gynaliadwyedd a chysur, gan gynnwys gosod pympiau gwres o'r awyr, paneli solar a lefelau uchel o inswleiddio i helpu i leihau costau ynni i breswylwyr. Mae'r cartrefi modern hyn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddarparu tai fforddiadwy, wedi'u cynllunio'n dda sy'n cefnogi cymunedau cryf a chynaliadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi Cyngor Sir Caerfyrddin:
"Mae mynediad at dai fforddiadwy o ansawdd uchel yn chwarae rhan hanfodol wrth wella iechyd a llesiant i helpu i greu cymunedau ffyniannus, cynaliadwy. Bydd y cartrefi newydd hyn yn darparu cymdogaethau diogel a chroesawgar lle gall teuluoedd osod gwreiddiau ac ymfalchïo yn ble maen nhw'n byw. Byddan nhw hefyd yn cefnogi'r economi leol trwy helpu i ddenu a chadw gweithlu medrus."
Mae tenantiaid newydd eisoes wedi dechrau canmol y datblygiad, gan rannu eu gwerthfawrogiad o ansawdd y cartrefi a'r gwahaniaeth maen nhw wedi'u gwneud i'w bywydau.
Dywedodd un preswylydd:
"Mae wedi'i ddylunio a'i grefftio'n hyfryd. Mae'n dawel ac wedi gwella fy iechyd meddwl. Rwyf wrth fy modd â'r lle a bod pob agwedd ar fyw yn cael ei ystyried."
Tynnodd preswylydd arall sylw at hygyrchedd ei gartref newydd:
"Mae'n cynnwys popeth sydd ei angen arna i. Rwy'n hapus iawn - diolch yn fawr iawn i chi a'ch tîm."
I eraill, mae'r cartrefi newydd wedi darparu diogelwch mawr ei angen a dechrau newydd. Esboniodd un preswylydd:
"Roeddwn i mewn llety dros dro a doeddwn i ddim yn siŵr ble y byddwn i yn y diwedd. Roeddwn i'n ysu i ddod yma wrth i mi ddilyn datblygiad y cartrefi. Roeddwn i'n gyffrous iawn pan gefais gynnig un. Mae fy iechyd wedi gwella'n sylweddol. Rwyf wrth fy modd â'r fflat a'r ardd. Rwy'n teimlo'n lwcus iawn."
Canmolodd preswylydd newydd ansawdd a chysur ei gartref, gan ddweud:
"Mae fy nghartref newydd yn anhygoel - mae'n teimlo'n ddiogel dros ben. Mae'n braf ac yn dawel yma ac mae'r tŷ wedi'i inswleiddio mor dda fel na allaf bron clywed y sŵn o'r tu allan. Roedd y broses gofrestru yn un hwylus ac esboniwyd popeth yn llawn. Mae'r ardd yn lle hyfryd a diogel i fy merch ei defnyddio ac rydyn ni'n gyffrous iawn i fwynhau yno yn yr haf."
Tynnodd preswylydd arall sylw at fanteision nodweddion ynni-effeithlon y cartref a'r gefnogaeth a gawson nhw wrth symud yno.
"Mae'r tŷ hwn yn anhygoel ac mae eisoes yn teimlo'n llawer gwell o gymharu â lle roeddwn i'n arfer byw. Mae'r paneli solar a'r system wresogi yn dda iawn, yn rhad i'w rhedeg ac yn hawdd i'w defnyddio. Roedd y broses symud i mewn yn syml ac roedd popeth wedi'i esbonio'n dda iawn."
Mae datblygiad Parc Pendre yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael ag anghenion tai wrth flaenoriaethu cynaliadwyedd, effeithlonrwydd ynni a llesiant cymunedol.
