Cabinet y Cyngor yn cymeradwyo y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol diwygiedig

21 awr yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo newidiadau i Bolisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y sir yn ei gyfarfod heddiw (dydd Llun 7 Medi 2026), gan alinio trefniadau cludiant ysgolion â dalgylchoedd addysg yn y sir.  

Bydd y newidiadau arfaethedig yn dod i rym o 1 Hydref 2026 a byddan nhw'n cael eu gweithredu ym mlwyddyn academaidd 2027/28 gan alluogi'r Cyngor Sir i ddarparu gwasanaeth mwy effeithlon i ddysgwyr.   Mae hyn yn cynnwys proses Polisi Seddi gwag cyflymach wrth gyflwyno ceisiadau yn awtomatig ar gyfer dysgwyr sy'n parhau â'u haddysg heb unrhyw newidiadau i'w hamgylchiadau a Bathodynnau Glas ar gyfer dysgwyr a dderbynnir fel prawf o hawl.

Mae'r diwygiadau a awgrymir i'r Polisi hefyd yn cynnwys seilio cymhwysedd ar gyfer cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol ar bresenoldeb yn yr ysgol ddalgylch ddynodedig (yn amodol ar bellter statudol a meini prawf cymhwyso eraill) a dileu'r hawl i gludiant i'r 'ysgol agosaf' lle nad dyma'r ysgol ddalgylch.

Byddai'r Cyngor Sir yn parhau i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 sy'n cynnwys cymorth i ddysgwyr cymwys sy'n byw y tu allan i bellteroedd cerdded statudol neu sy'n gymwys ar seiliau eraill megis Anghenion Dysgu Ychwanegol, gofynion meddygol, llwybrau cerdded anniogel neu statws Plentyn sy'n Derbyn Gofal.

Bydd trefniadau cludiant ysgol ar gyfer disgyblion sy'n dechrau ym mis Medi 2026 yn parhau am gyfnod eu haddysg yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: 

Mae'r newidiadau arfaethedig hyn wedi'u cynllunio i sicrhau bod ein Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol yn glir, yn deg ac yn cyd-fynd yn llawn â'r trefniadau dalgylchoedd ysgolion a gymeradwywyd gan y Cabinet yn gynharach eleni. Bydd y polisi diwygiedig yn parhau i fodloni cyfrifoldebau statudol y Cyngor Sir wrth ddarparu mwy o dryloywder i deuluoedd a chefnogi cynaliadwyedd tymor hir gwasanaethau cludiant ysgol."