Barod am Stondin Marchnad Nadolig? Mynnwch hyfforddiant arbenigol am ddim

13 awr yn ôl

Mae busnesau a darpar fasnachwyr o bob maint yn cael eu gwahodd i ddarganfod y cyfleoedd sydd ar gael ym marchnadoedd Sir Gâr y Nadolig hwn, drwy seminarau am ddim Marchnadoedd Sir Gâr.

13 Hydref 2026–Neuadd y Dref Llanelli, Stryd yr Eglwys
•    Sesiwn 1: 2pm-4:30pm
•    Sesiwn 2: 6pm-8:30pm

14 Hydref Caerfyrddin- Neuadd Ddinesig San Pedr, Maes Nott 
•    Sesiwn 1: 2pm-4:30pm
•    Sesiwn 2: 6pm-8:30pm 

Mae'r sesiynau ymarferol yn cael eu cyflwyno gan Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Marchnad a byddant yn rhoi gwybodaeth hanfodol i ddarpar stondinwyr am sut i ddod yn fasnachwr marchnad proffesiynol, ynghyd ag awgrymiadau defnyddiol a chyngor ar fusnes a masnachu. Bydd y sesiynau'n rhoi sylw i ofynion cyfreithiol a gweinyddol pwysig, gan gynnwys technoleg ac offer. 

Bydd y digwyddiadau hefyd yn gyfle i gwrdd â threfnwyr marchnadoedd, cynrychiolwyr y cyngor a masnachwyr presennol, wrth ddysgu mwy am dueddiadau cwsmeriaid lleol, digwyddiadau Nadolig, siopa gyda'r hwyr a chyfleoedd i ddatblygu perthnasoedd busnes tymor hwy. 

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Farchnadoedd: 

Mae ein marchnadoedd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi busnesau lleol, annog entrepreneuriaeth a denu pobl i ganol ein trefi. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle gwych i unrhyw un sy'n ystyried masnachu mewn marchnad i ddarganfod beth sydd ynghlwm wrth hynny a sut i ddatblygu syniad yn fusnes yn ein marchnadoedd. Rydyn ni am roi'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen ar fasnachwyr newydd a phresennol i fanteisio ar y cyfleoedd y gall ein marchnadoedd eu cynnig."

Nod y seminarau yw rhoi'r wybodaeth a'r hyder i ddarpar fasnachwyr benderfynu a yw masnachu mewn marchnadoedd Nadolig yn werth chweil a deall y camau sydd eu hangen i ddechrau.

Mae'r sesiynau hyn yn cael eu hariannu gan Gronfa Twf Lleol Llywodraeth y DU. 

I gofrestru, ewch i: Your "Guide to trading" seminar by Carmarthenshire County Council | Eventbrite