Sir Gâr yn dathlu llwyddiant athletwyr yng Ngemau'r Gymanwlad 2026

3 diwrnod yn ôl

Llongyfarchiadau i athletwyr Sir Gâr, sef Emma Finucane, Jessica Roberts, Rory Gravelle, Steffan Lloyd a Steffan James, ar eu llwyddiant yng Ngemau'r Gymanwlad 2026.

Emma Finucane, enillydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Sir Gâr, oedd y beiciwr trac cyntaf erioed i ennill pedair medal aur mewn un Gemau'r Gymanwlad yn Sbrint Tîm y Merched, Sbrint y Merched, Prawf Amser 1000m y Merched a Keirin y Merched ac arweiniodd Gymru i seremoni gloi'r Gemau.

Enillodd Jessica Roberts, y beiciwr trac, fedal arian yn Ras Bwyntiau 25km y Merched a medal efydd yn Ras Ymlid Tîm y Merched.

Enillodd Steffan James fedal efydd yn ei Gemau'r Gymanwlad cyntaf erioed, gan gynrychioli Cymru yn y Para-fowlio i Barau Cymysg yn dilyn cystadleuaeth agos.

Bu Rory Gravelle, cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, yn cynrychioli Cymru fel rhan o garfan Ymlid y Dynion, gan gipio'r 4ydd safle, yn ogystal â chystadlu yn Ras Ddileu'r Dynion. 

Bu Steffan Lloyd yn cystadlu mewn pedair cystadleuaeth beicio trac gan gynnwys Sbrint Tîm y Dynion, lle cofnododd Tîm Cymru amser o 44.075, y Keirin, y Sbrint Unigol a'r Prawf Amser 1000m lle daeth yn chweched.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: 

Llongyfarchiadau i athletwyr Sir Gâr a gynrychiolodd Dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2026 yn Glasgow.

Mae eu taith o athletwyr lleol talentog i bencampwyr rhyngwladol yn tystio i'w gwaith caled a chefnogaeth gadarn y gymuned."