Sir Gaerfyrddin yn ehangu'r cynnig gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed

15 awr yn ôl

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno cam nesaf y rhaglen ehangu gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru o 7 Medi 2026 ymlaen, gyda 12.5 awr o ofal plant wedi'i ariannu bob wythnos ar gael i blant dwy oed sy'n gymwys ledled y sir.

Bydd y fenter yn golygu y caiff rhagor o deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin fynediad at ofal plant fforddiadwy o safon, ac yn helpu rhieni a gofalwyr i gael cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg, gan gefnogi datblygiad plant yn ystod eu blynyddoedd cynnar hollbwysig.

Bydd y cynnig estynedig yn cael ei ddarparu drwy rwydwaith Sir Gaerfyrddin o ddarparwyr gofal plant cofrestredig, gan sicrhau bod teuluoedd ledled y sir yn gallu cael mynediad at ofal plant yn nes at adref.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Plant a Theuluoedd: 

Mae cam nesaf y cynnig gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn gam cadarnhaol tuag at ddarparu gofal plant cytbwys wedi'i ariannu ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydweithio'n agos â darparwyr gofal plant i baratoi ar gyfer y cam nesaf a sicrhau bod digon o leoedd gofal plant ar gael i ateb y galw cynyddol.”

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal plant, Sioned Williams: 

Mae hyn yn newyddion ardderchog ac yn dangos sut rydym yn cyflymu ein hymrwymiadau i ddarparu mwy o gymorth i deuluoedd. Costau gofal plant yng Nghymru yw'r uchaf yn y DU ac rwy'n benderfynol o helpu i leihau costau i deuluoedd ym mhob rhan o Gymru, gan sicrhau bod plant yn gallu cael y dechrau gorau mewn bywyd i gefnogi eu datblygiad. Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos ag awdurdodau lleol ledled Cymru i sicrhau bod pob teulu yn gallu elwa o ofal plant mwy fforddiadwy a hygyrch."

Mae'r ehangiad yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu system gofal plant i bob plentyn ac mae'n dilyn y cyhoeddiad bod pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ar y trywydd iawn i gynnig gofal plant wedi'i ariannu i bob plentyn dwy oed erbyn diwedd mis Mawrth 2027.

I gael rhagor o wybodaeth am ofal plant a ariennir yn Sir Gaerfyrddin, ewch i wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, e-bostiwch neu ffoniwch 01267 246555.