Newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff yn Sir Gâr dros Ŵyl Banc yr Haf
2 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Gâr yn atgoffa preswylwyr i wirio eu dyddiadau casglu ailgylchu a gwastraff cyn Gŵyl Banc yr Haf, ddydd Llun, 31 Awst.
Bydd yr holl gasgliadau’n digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer. Dyma pryd bydd eich biniau’n cael eu casglu:
|
Diwrnod casglu arferol |
Diwrnod casglu diwygiedig |
|
Dydd Llun, 31 Awst |
Dydd Mawrth, 1 Medi |
|
Dydd Mawrth, 1 Medi |
Dydd Mercher, 2 Medi |
|
Dydd Mercher, 2 Medi |
Dydd Iau, 3 Medi |
|
Dydd Iau, 3 Medi |
Dydd Gwener, 4 Medi |
|
Dydd Gwener, 4 Medi |
Dydd Sadwrn, 5 Medi |
Bydd casgliadau ar gyfer gwastraff hylendid a chewynnau a gwastraff gardd hefyd yn dilyn yr amserlen newydd.
Rhowch eich biniau allan erbyn 6am ar eich diwrnod casglu newydd. Cofiwch am y terfyn o dri bag du a golchwch a gwasgwch eich deunydd ailgylchu.
Cofrestrwch i gael neges e-bost neu neges destun am ddim i'ch atgoffa am eich casgliadau ailgylchu a gwastraff yma.
Os bydd unrhyw darfu ar wasanaethau, bydd y wybodaeth yn cael ei rhoi ar wefan y cyngor ar ôl 2pm ar ddiwrnod eich casgliad. Mae preswylwyr yn cael eu hannog i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn rhoi gwybod am wastraff sydd heb ei gasglu.
Bydd yr holl ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar agor fel arfer ddydd Llun, 31 Awst. Gallwch weld eu horiau agor yma.
Mae preswylwyr hefyd yn cael eu gofyn i rannu’r wybodaeth hon ag aelodau o’r teulu, ffrindiau neu gymdogion sydd efallai yn dibynnu ar eraill am ddiweddariadau a gwybodaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Gan fod Gŵyl Banc yr Haf yn agosáu, byddwn yn annog yr holl breswylwyr i edrych i weld pryd mae eu dyddiad casglu dros ŵyl y banc. Bydd casgliadau yn digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer, felly bydd rhoi eich biniau allan ar y diwrnod cywir yn helpu i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth. Hoffem hefyd ddiolch i breswylwyr am barhau i ailgylchu cymaint â phosibl, gan gofio i olchi a gwasgu eitemau a chadw o fewn y terfyn o dri bag du.”
