Myfyrwyr Safon Uwch ac UG Sir Gaerfyrddin yn dathlu eu canlyniadau

38 diwrnod yn ôl

Mae myfyrwyr ledled Sir Gaerfyrddin wedi casglu eu canlyniadau Safon Uwch ac UG heddiw, ddydd Iau, 13 Awst 2026, ac mae cyfanswm o 98% o fyfyrwyr Safon Uwch wedi cael gradd A*- E a 87.9%  o fyfyrwyr UG wedi cael gradd A-E.

Trwy gyfrwng arholiadau ac asesiadau, sy'n berthnasol i wahanol gyrsiau, mae cyfanswm o 25.6% o fyfyrwyr Safon Uwch ledled Sir Gaerfyrddin wedi derbyn gradd A neu A* eleni; ac mae  12.2% o fyfyrwyr UG Sir Gaerfyrddin wedi cael graddau A.

Wrth dderbyn ei chanlyniadau heddiw, dywedodd Celyn o Ysgol Bro Myrddin:

Haia, Celyn ydw i, Ges i 3 A a 1 B ac rwy’n mynd i Gaerdydd ym mis Medi I astudio Gwleidyddiaeth a Chystylltiadau Rhyngwladol I ddathlu heno dwi ar gwrs preswyl Côr Cenedlaethol Cymru, felly fydd cwpwl o ni yn cael drincs yn y bar i ddathlu.

Wrth dderbyn ei ganlyniadau heddiw, dywedodd Guto:

Fy enw i yw Guto ac ym mis Medi byddai’n cael prentisiaeth yn electrical engineering."

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg:

Llongyfarchiadau i holl ddysgwyr Sir Gaerfyrddin sydd wedi cael eu canlyniadau Safon Uwch ac UG heddiw. Mae'r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu'r ymroddiad, y dyfalbarhad a'r ymrwymiad rydych chi wedi'i ddangos trwy gydol eich astudiaethau, a dylech fod yn falch iawn o bopeth rydych chi wedi'i gyflawni.
Hoffwn ddiolch hefyd i’r athrawon, y staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am y gefnogaeth maen nhw wedi'i rhoi i helpu ein pobl ifanc gyrraedd y garreg filltir bwysig hon."

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters a'r Cyfarwyddwr Addysg a Hamdden, Owain Lloyd:

Llongyfarchiadau i fyfyrwyr Safon Uwch ac UG Sir Gaerfyrddin ar eu canlyniadau heddiw. 
Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, hoffem eich llongyfarch chi i gyd, da iawn. Hoffai'r ddau ohonom hefyd ddiolch i bawb sydd wedi bod yn cefnogi ein myfyrwyr i gyrraedd y pwynt hwn. Diolch i'n holl staff addysgu, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am eu rôl yn eich llwyddiant.
Wrth i chi gymryd eich camau nesaf, boed mewn addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth, dymunwn bob llwyddiant a hapusrwydd i chi ar gyfer y dyfodol. Da iawn bawb.”

Cliciwch yma i weld myfyrwyr Ysgol Bro Myrddin yn cael eu canlyniadau.