Marwolaeth y Cynghorydd Peter Cooper

8 awr yn ôl

Roeddem yn drist o glywed am farwolaeth ein cyfaill, y Cynghorydd Peter Cooper, yn ddiweddar.

“Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, hoffwn ddweud ein bod yn meddwl am deulu ac anwyliaid Peter ac yn estyn ein cydymdeimlad iddynt mewn cyfnod anodd.

"Roedd Peter yn was ymroddgar i fywyd cyhoeddus ac i'w gymuned dros flynyddoedd lawer. Cafodd ei ethol yn wreiddiol i Gyngor Sir Caerfyrddin ym mis Mai 2004, gan ddangos ymroddiad a phenderfyniad wrth wasanaethu, cyn dychwelyd i'r Cyngor ym mis Mai 2022 ar ôl cael ei ailethol i gynrychioli pobl Ward Saron.

"Roedd Peter yn aelod pwysig o Bwyllgor Trwyddedu y Cyngor, a bu'n rhan o'r Pwyllgor Cynllunio ar un adeg. Roedd bob amser yn awyddus i sicrhau bod lleisiau trigolion lleol yn cael eu clywed a'u cynrychioli.

"Y tu hwnt i'w waith fel Cynghorydd Sir, gwnaeth Peter gyfraniad sylweddol i fywyd cyhoeddus. Roedd yn gyn-Gadeirydd Cyngor Cymuned Llandybïe, yn gyn-Ynad Heddwch, a gwasanaethodd fel Ysgrifennydd a Chyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Rhydaman. Trwy'r swyddi hyn, dangosodd ymrwymiad gydol ei oes i gefnogi a gwasanaethu eraill."

Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Linda Evans.