Maesgriffith yn croesawu preswylwyr newydd
6 awr yn ôl
Mae cwblhau datblygiad Maesgriffith yn garreg filltir arall yn rhaglen dai Cyngor Sir Gaerfyrddin, gan ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol a helpu i fynd i'r afael â'r galw am dai yn yr ardal.
Mae'r datblygiad yn cynnwys 12 cartref modern, ynni-effeithlon, ac mae'r tenantiaid bellach wedi dechrau ymgartrefu yn eu cymuned newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Mae mynediad at gartrefi fforddiadwy o ansawdd da yn gwella iechyd a llesiant ac yn helpu i adeiladu cymunedau cryf, cynaliadwy. Bydd y cartrefi newydd hyn yn creu cymdogaethau diogel, bywiog y gall teuluoedd ymfalchïo ynddyn nhw, tra hefyd yn cefnogi ein heconomi leol trwy ddenu a chadw gweithlu cryf.”
Mae'r cartrefi wedi'u hadeiladu i safon uchel ac maen nhw'n cynnwys nodweddion ynni-effeithlon sydd wedi'u cynllunio i helpu i leihau costau ynni cartrefi wrth gefnogi uchelgeisiau amgylcheddol y Cyngor.
