Mae Gwŷr Gwyllt Arenig yn ailuno artistiaid arloesol yn Amgueddfa Parc Howard Arddangosfa newydd yn dod â Gwŷr Gwyllt Arenig i Amgueddfa Parc Howard
16 awr yn ôl
Arddangosfa newydd, Gwŷr Gwyllt Arenig: James Dickson Innes | Augustus John | Derwent Lees yn agor yn Amgueddfa Parc Howard, Llanelli ar 4 Gorffennaf 2026 tan 10 Ionawr 2027. Mae'r arddangosfa'n archwilio'r gymuned artistig ryfeddol a ddatblygodd yn Nyffryn Arenig yng Ngogledd Cymru rhwng 1910 a 1913 ac yn dathlu'r artistiaid a helpodd i lunio celf fodern Cymru.
Ymysg uchafbwyntiau'r arddangosfa mae Mynydd Arenig atmosfferig Innes, ar fenthyg o Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, ac Arenig Mawr Lees, o'r Amgueddfa Crochenwaith ac Oriel Gelf yn Stoke-on-Trent. Yn cael ei arddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf mae paentiad dyfrlliw gan Innes o Gastell Cydweli, a brynwyd ar gyfer yr amgueddfa yn 2025 yn dilyn ymdrech fawr i godi arian dan arweiniad Cyfeillion Amgueddfa Parc Howard Llanelli, gyda rhoddion gan Gymdeithas Gelf Llanelli, Cymdeithas Ddinesig Llanelli a'r Cyffiniau, ac unigolion lleol.
Mae Gwŷr Gwyllt Arenig yn archwilio sut ymatebodd y tri artist hyn - Innes, John a Lees - i'r mudiad celf Ôl-Argraffiadol rhyngwladol mewn ffordd arbennig sy'n unigryw i Gymru. Roedd lliw ac emosiwn beiddgar eu tirweddau yn mynegi profiad personol cymaint â lle. Mae'r arddangosfa yn archwilio ffordd o fyw bohemaidd cymuned Arenig a dylanwad y menywod, gan gynnwys Euphemia Lamb a Dorelia McNeill, a helpodd i lunio ei gweledigaeth greadigol.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“Rydym yn falch iawn o ddod â'r arddangosfa gelf hon o ansawdd uchel i Amgueddfa Parc Howard. Roedd Augustus John a James Dickson Innes ymhlith artistiaid Cymreig mwyaf arwyddocaol hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a enillodd gydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol a helpodd i lunio cyfeiriad celf fodern Prydain.
Rydym yn arbennig o falch o arddangos y paentiad diweddaraf yng nghasgliad yr amgueddfa, sef y paentiad o Gastell Cydweli gan yr artist James Dickson Innes, a anwyd yn Llanelli, ac rydym yn ddiolchgar iawn i wirfoddolwyr a chefnogwyr lleol yr amgueddfa am ei gwneud hi'n bosibl i ni brynu'r paentiad hwn.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa a'r oriau agor, ewch i wefan CofGâr neu dilynwch CofGâr ar y cyfryngau cymdeithasol.
