Hanner Marathon Llwybr Dyffryn Tywi a werthodd allan yn arddangos y Llwybr
20 awr yn ôl
Ymgasglodd rhedwyr o bob rhan o dde Cymru yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sul, Awst 16, ar gyfer Hanner Marathon cyntaf Llwybr Dyffryn Tywi, a drefnwyd gan Dîm Chwaraeon a Hamdden Actif Cyngor Sir Caerfyrddin.
Denodd y digwyddiad redwyr o bob gallu, o athletwyr profiadol sy'n ceisio cael eu hamserau personol gorau i'r rhai sy'n ymgymryd â'u her hanner marathon cyntaf.
Gan ddechrau a gorffen yn Ysgol Bro Dinefwr, Ffairfach, aeth y rhedwyr ar hyd llwybr newydd Dyffryn Tywi sy'n 13.1 milltir, di-draffig. Gan droi rownd yn Llanarthne, teithiodd y rhedwyr ar hyd rhai o dirweddau harddaf Sir Gaerfyrddin cyn dychwelyd i groeso cynnes ar y llinell derfyn.
Roedd ffrindiau, aelodau o'r teulu a gwylwyr lleol yn gwylio ar hyd y llwybr drwy gydol y dydd, gan greu awyrgylch hyfryd a chymeradwyo'r rhedwyr wrth iddyn nhw gwblhau'r cwrs.
Yr athletwr gwrywaidd cyntaf i orffen oedd Daniel Griffiths, gan gwblhau'r cwrs mewn 1 awr, 9 munud a 17 eiliad, amser anhygoel!
Y rhedwr lleol Tifanie Lewis oedd yr athletwraig fenywaidd gyntaf i orffen, gan groesi'r llinell mewn 1 awr, 27 munud a 40 eiliad.
Y tri uchaf yng nghategori y dynion oedd:
- Daniel Griffiths (1:09:17)
- Michael Roderick (1:12:51)
- Thomas Jones (1:17:22)
Y tri uchaf yn y categori y menywod oedd:
- Tifanie Lewis (1:27:40)
- Sioned Howells (1:28:58)
- Lydia Morgan (1:29:21)
Hoffai Tîm Chwaraeon a Hamdden Actif Cyngor Sir Caerfyrddin ddiolch i'r holl bartneriaid a gwirfoddolwyr am drefnu digwyddiad mor llwyddiannus.
Diolch yn arbennig i Radnor, a fuodd mor garedig â darparu dŵr ar gyfer y gorsafoedd hydradu ar y cwrs a'r ardal orffen, yn ogystal â marsialiaid y cwrs, gwirfoddolwyr gorsafoedd dŵr, timau cymorth cyntaf, pacers, darparwyr tylino a lluniaeth, a swyddogion y ras.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Llwybr Dyffryn Tywi ac yn mwynhau popeth sydd gan y llwybr i'w gynnig. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i redwyr herio eu hunain ynghyd ag arddangos golygfeydd trawiadol Dyffryn Tywi. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran, gwirfoddoli a chefnogi'r digwyddiad, gan helpu i'w wneud yn ddiwrnod mor llwyddiannus."
Gellir gweld canlyniadau'r ras yma: Hanner Marathon Dyffryn Tywi
