Gwaith o Drawsnewid Atriwm yn symud ymlaen y tu ôl i'r sgaffaldiau
1 diwrnod yn ôl
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ailddatblygiad nodedig Atriwm yng nghanol tref Caerfyrddin, wrth i hen adeilad Debenhams gael ei drawsnewid yn gyrchfan aml-bwrpas newydd i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
Dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, mae Atriwm yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd y prosiect yn dwyn ynghyd wasanaethau cyhoeddus, gofal iechyd, addysg, hamdden a gweithgareddau sy'n addas ar gyfer pob oedran o dan yr un to, gan helpu i ddenu ymwelwyr, adfywio canol y dref a chefnogi'r economi ehangach. Bydd Atriwm yn dod ag amrywiaeth o gyfleusterau meddygol cymunedol at ei gilydd yng nghanol y dref. Y cynnig unigryw hwn, ochr yn ochr â'r ystod o wasanaethau eraill yn Atriwm, yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Mae Atriwm yn fuddsoddiad pwysig yn nyfodol tref Caerfyrddin a'i hardal wledig sylweddol iawn, gyda chyllid cyfalaf yn cael ei ddarparu gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Llywodraeth Cymru, Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Er bod llawer o'r gwaith allanol yn parhau y tu ôl i'r sgaffaldiau, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud y tu mewn i'r adeilad. Mae contractwyr eisoes wedi gwneud newidiadau strwythurol mawr, gwaith ad-drefnu mewnol a gwelliannau i baratoi'r adeilad ar gyfer ei ailagor yn y dyfodol.
Pan fydd yn agor, bydd Atriwm yn cynnwys:
- Gwasanaethau gofal iechyd cymunedol a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol
- Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol
- Iechyd Cyhoeddus Cymru - Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru
- Iechyd Meddwl
- Fflebotomi
- Nyrsio Cymunedol
- Pobl a Datblygiad
- Therapïau Plant a Phobl Ifanc a Therapi Galwedigaethol
- Seicoleg Iechyd Plant
- Nyrsio Cymunedol Plant
- Cyfleusterau addysgu ac addysg sy'n cefnogi Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Hwb Gwasanaeth Cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd ar hyn o bryd wedi'i leoli yn Uned 22, Rhodfa'r Santes Catrin
- Desg Dalu y Cyngor yng Nghaerfyrddin, sydd ar hyn o bryd yn Heol Spilman
- Cyfleuster ffitrwydd, stiwdios a mannau llesiant cyntaf Chwaraeon a Hamdden Actif sydd ar agor 24 awr y dydd
- Atyniadau hamdden sy'n addas ar gyfer pob oedran, gan gynnwys golff antur dan do, cyfleusterau chwarae i blant, TAG Active a gwib gartiau trydan.
Mae'r sgaffaldiau o amgylch yr adeilad yn caniatáu i waith adnewyddu allanol ddigwydd ar yr un pryd â'r rhaglen adeiladu fewnol. Mae'r gwelliannau pwysig hyn yn cynnwys atgyweiriadau i amlen yr adeilad, adfer y ffasâd a gwaith moderneiddio hanfodol a fydd yn sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd safonau modern ac yn helpu i sicrhau ei ddyfodol am ddegawdau i ddod.
Cyn ei gaffael, comisiynodd y Cyngor arolwg annibynnol o’r adeilad nad oedd wedi nodi unrhyw broblemau strwythurol sylweddol y tu hwnt i gyflwr y to. Fodd bynnag, fel sy'n gyffredin gydag adnewyddu adeiladau mawr, ni ddaeth rhai problemau i'r amlwg nes dechrau’r gwaith ac agor elfennau o'r adeilad fel rhan o'r gwaith adeiladu, a daeth yr angen am ymchwiliad manylach i'r amlwg.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i ystyried costau a manteision unrhyw brosiect adfywio mawr, ac mae Atriwm yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol canol tref Caerfyrddin, gan ddod â chyfleusterau gofal iechyd, hamdden a chymunedol at ei gilydd mewn adeilad gwag amlwg. Mae'r Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod y prosiect yn darparu gwerth hirdymor wrth fynd i'r afael â'r heriau sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y broses adeiladu. Mae Atriwm yn parhau i fod yn gyfle pwysig i gryfhau gwasanaethau hygyrch lleol, yn enwedig iechyd, cefnogi adfywio canol y dref a darparu manteision parhaol i'r gymuned ehangach.
Mae Atriwm yn cynrychioli buddsoddiad mawr yn nyfodol Caerfyrddin, gyda chyllid cyfalaf yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cronfa Adfywio Lleol Llywodraeth y DU, Cronfa Ailgydbwyso Gofal Integredig Llywodraeth Cymru a Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun wedi esblygu ers cyflwyno'r cais gwreiddiol i'r Gronfa Ffyniant Bro yn 2021, pan oedd yn seiliedig ar ddyluniad cysyniad cynnar gyda chyllideb o £19m. Ariannwyd prynu hen adeilad Debenhams yn gyfan gwbl trwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, heb ddefnyddio unrhyw gyllid gan y Cyngor i gaffael yr eiddo. Wrth i ddylunio manwl a chynllunio gwasanaethau fynd rhagddo, ehangwyd y prosiect i ddarparu mwy ar gyfer Caerfyrddin, gan gynnwys canolfan weithgareddau, darpariaeth gofal iechyd ychwanegol, mwy o arwynebedd llawr a chefnogaeth ehangach i ganol y dref. Mae £12m arall wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phartneriaid prosiect i helpu i ariannu'r elfennau ychwanegol hyn.
Y gost derfynol a ragwelir bellach yw £41m. Mae hyn yn adlewyrchu cwmpas ehangach y prosiect, ystod well o wasanaethau a seilwaith clinigol sy'n gysylltiedig â'r cwmpas ehangach, chwyddiant mewn costau adeiladu ar ôl y pandemig, a phroblemau strwythurol annisgwyl a nodwyd yn ystod y gwaith adnewyddu. Ar hyn o bryd rhagwelir mai cost y gwaith adfer sy'n gysylltiedig â'r problemau hynny fydd £4.2m. Mae'r gyllideb wedi'i diweddaru yn cael ei hariannu drwy gyfraniadau Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y Cyngor a phartneriaid, a disgwylir cwblhau hyn yn gynnar yn 2027.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae Atriwm yn fuddsoddiad mawr yng nghanol tref Caerfyrddin, gan ddefnyddio adeilad mawr yng nghanol y dref a fyddai fel arall yn cael ei adael yn wag ac yn ddolur llygad posibl. Trwy ddod â hen adeilad Debenhams yn ôl i ddefnydd, rydym yn creu cyrchfan groesawgar a fydd yn cefnogi busnesau lleol, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn rhoi gwell mynediad i bobl at ystod eang o wasanaethau cyhoeddus, cyfleoedd hamdden, addysg a gofal iechyd yng nghanol y dref. Daw cyfraniad ariannol y Cyngor i’r prosiect o’i Gyllideb Gyfalaf, ac felly nid yw’n cael effaith ar y Dreth Gyngor.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, ewch i'n gwefan.
