Gwaith hanfodol o osod wyneb newydd dros nos wedi'i gynllunio yng nghylchfan Machynys

2 diwrnod yn ôl

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwneud gwaith hanfodol sef gosod wyneb newydd dros nos yng Nghylchfan B4304 Machynys rhwng 10 a 17 Awst 2026. Yn dilyn trafodaethau rhwng tîm Priffyrdd y Cyngor, y contractwr wyneb Tarmac a Chlwb Golff Machynys, mae'r rhaglen waith wedi'i chynllunio'n ofalus i leihau aflonyddwch ar y busnes, ei gwsmeriaid a'r cyhoedd sy'n teithio.

I leihau effeithiau cymaint â phosibl, bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud dros nos, ac ni fydd y gwaith o osod wyneb newydd yn cael ei wneud ddydd Sadwrn 15 Awst a dydd Sul 16 Awst yn ystod cyfnod penwythnos prysur.

Mae'r cynllun gwella yn angenrheidiol i gynnal cyflwr y briffordd a sicrhau diogelwch parhaus defnyddwyr y ffordd sy'n defnyddio'r llwybr pwysig hwn.

Bydd Cylchfan Machynys y B4304 ar gau dros nos rhwng 9pm a 5am o ddydd Llun 10 Awst tan fore dydd Sadwrn 15 Awst 2026, a bydd ar gau eto dros nos o 9pm ddydd Llun 17 Awst tan 5am ddydd Mawrth 18 Awst 2026.

Bydd mynediad i Glwb Golff Machynys ac oddi yno yn cael ei gynnal tan 10pm bob nos drwy gydol y gwaith, a bydd mynediad estynedig tan 11pm ddydd Gwener 14 Awst.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Mae'r gwaith hwn o osod wyneb newydd yn hanfodol i gynnal diogelwch a chyflwr hirdymor y rhan hon o'r briffordd. Rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd Clwb Golff Machynys i'r economi leol a'r cynnig i ymwelwyr, ac mae ein tîm Priffyrdd wedi gweithio'n agos gyda'r clwb a'n contractwr drwy gydol y broses gynllunio i hwyluso pethau gymaint â phosibl.
Trwy gyflawni'r rhan fwyaf o'r gwaith dros nos, cynnal trefniadau mynediad ac atal gweithgarwch dros y penwythnos, rydyn ni wedi ceisio darparu ar gyfer anghenion y busnes wrth sicrhau bod y gwelliannau angenrheidiol hyn yn cael eu cyflawni'n ddiogel ac yn effeithlon er budd holl ddefnyddwyr y ffordd."

Hoffai'r Cyngor ddiolch i Glwb Golff Machynys, trigolion a modurwyr am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i'r gwelliannau hanfodol hyn gael eu cyflawni.