Estyn yn tynnu sylw at gryfderau’r ddarpariaeth drochi yn y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin
4 diwrnod yn ôl
Mae arolygiad Estyn o'r trefniadau trochi yn y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin wedi tynnu sylw at arweinyddiaeth gref a strategol, addysgu effeithiol a chymorth llwyddiannus i ddisgyblion sy'n datblygu eu sgiliau Cymraeg.
Mae'r adroddiad yn cydnabod y modd mae'r ddarpariaeth drochi ar draws y sir wedi ehangu'n sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nododd yr arolygwyr fod swyddogion yr awdurdod lleol yn darparu "arweinyddiaeth gref a strategol" a'u bod wedi llwyddo i ehangu'r ddarpariaeth, dosbarthu cyfrifoldebau'n effeithiol a datblygu gallu arweinwyr canolfannau er mwyn cyfrannu at weithgareddau sicrhau ansawdd a gwella.
Mae Estyn yn tynnu sylw at weledigaeth glir yr awdurdod ar gyfer trochi yn y Gymraeg, sy'n canolbwyntio ar ehangu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a chefnogi disgyblion i ddatblygu hyder wrth ddefnyddio'r iaith. Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod partneriaethau cynhyrchiol gydag ysgolion, awdurdodau lleol cyfagos a sefydliadau allanol sy'n cefnogi datblygiad parhaus y ddarpariaeth.
Roedd yr arolygwyr wedi canmol ansawdd y profiadau addysgu a dysgu sy'n cael eu darparu drwy ganolfannau trochi'r awdurdod. Mae'r adroddiad yn nodi bod y staff yn darparu profiadau dysgu diddorol sy'n galluogi'r rhan fwyaf o’r disgyblion i ddatblygu eu sgiliau gwrando a siarad Cymraeg yn dda. Mae'r gweithgareddau dysgu yn darparu cyfleoedd rheolaidd i'r disgyblion ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau ystyrlon yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gymuned ehangach.
Cryfder arbennig a nodwyd gan Estyn yw'r ffordd y mae staff yn cyfoethogi dysgu trwy brofiadau bywyd go iawn. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sut mae'r disgyblion yn cymhwyso patrymau'r iaith a geirfa Gymraeg drwy weithgareddau ac ymweliadau cymunedol dilys, gan eu helpu i ddatblygu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd bob dydd a chryfhau eu dealltwriaeth o'r Gymraeg fel iaith fyw.
Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod y cynnydd sy’n cael ei wneud gan ddisgyblion yn ystod eu hamser yn y canolfannau. Roedd yr arolygwyr o'r farn bod y rhan fwyaf o’r disgyblion yn gwneud cynnydd cryf wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac yn defnyddio'r Gymraeg yn fwyfwy hyderus wrth gyfathrebu ag eraill.
Hefyd nodwyd y trefniadau llesiant a chymorth fel cryfderau. Mae'r staff yn adnabod y disgyblion yn dda ac yn darparu cymorth effeithiol sy'n helpu i ddiwallu anghenion unigolion. Yn ôl yr arolygwyr roedd yr amgylcheddau dysgu yn groesawgar ac yn gynhwysol, gan hyrwyddo perthynas gadarnhaol rhwng y staff a'r disgyblion. Mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda, yn cymryd rhan yn gadarnhaol yn eu dysgu ac yn ymgartrefu'n gyflym i fywyd y ganolfan.
Tynnodd Estyn sylw hefyd at ymrwymiad yr awdurdod i ddatblygu capasiti'r gweithlu drwy gyfleoedd dysgu proffesiynol, gan gynnwys secondiadau, ymweliadau â chanolfannau eraill a rhannu arferion effeithiol. Mae'r adroddiad yn nodi bod y trefniadau hyn yn cryfhau arbenigedd ar draws y gweithlu ac yn cefnogi datblygiad parhaus y ddarpariaeth drochi yn y Gymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith sylweddol sydd wedi digwydd i ehangu'r ddarpariaeth drochi yn y Gymraeg ar draws Sir Gaerfyrddin a chryfhau mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'n galonogol gweld cydnabyddiaeth o ansawdd yr addysgu, y cymorth sy'n cael ei ddarparu i’r dysgwyr a'r profiadau cadarnhaol sydd ar gael drwy'r canolfannau trochi. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r gwaith hwn ac yn mynd i'r afael â'r argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad."
