Dysgwyr TGAU Sir Gâr yn dathlu eu canlyniadau
1 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn llongyfarch yr holl ddisgyblion yn y sir sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, sef dydd Iau 20 Awst 2026.
Yn Sir Gaerfyrddin, dyfarnwyd gradd A*-C i 63.4% o'r holl geisiadau a dyfarnwyd gradd A*-A i 18.8% o'r ceisiadau.
Wrth dderbyn ei chanlyniadau heddiw, dywedodd Mia o Ysgol Bro Dinefwr:
“Rwy'n hapus gyda fy canlyniadau, a dwi'n mynd i coleg blwyddyn nesaf i gwneud Bioleg, Seicoleg ac Addysg Gorfforol.”
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:
"Heddiw, rydyn ni'n dathlu llwyddiant pobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau TGAU. Mae eu hymrwymiad a'u hymdrech trwy gydol eu hastudiaethau wedi eu helpu nhw i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon.
Mae'r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu cefnogaeth athrawon ymroddedig, staff cymorth, rhieni, teuluoedd a ffrindiau sydd wedi annog ac arwain ein pobl ifanc ar hyd y ffordd. Llongyfarchiadau i bob myfyriwr ac i bawb sydd wedi chwarae rhan yn eu llwyddiant."
Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, Owain Lloyd:
"Llongyfarchiadau i'n dysgwyr ar eu cyflawniadau heddiw. Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu eich holl waith caled a'ch ymroddiad trwy gydol eich astudiaethau, ac rydyn ni'n hynod falch o'ch llwyddiant.
Hoffwn ddiolch o galon hefyd i athrawon, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am eu hanogaeth a'u hymrwymiad, sydd wedi helpu i wneud y cyflawniadau hyn yn bosibl."
Cliciwch yma i wylio fideo o ddisgyblion Ysgol Bro Dinefwr yn derbyn eu canlyniadau.
