Casgliadau biniau i ddechrau'n gynharach yfory, dydd Iau 13 Awst 2026, oherwydd y gwres eithafol
10 awr yn ôl
Mae Cyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi y bydd casgliadau biniau yn dechrau yn gynharach na'r arfer yfory, dydd Iau 13 Awst 2026, oherwydd y rhagolygon am wres eithafol
I helpu i ddiogelu iechyd, diogelwch a llesiant criwiau rheng flaen sy'n gweithio yn y gwres eithafol, bydd casgliadau'n dechrau am 5am yn hytrach na 6am.
Mae hyn yn cynnwys casgliadau gwastraff gardd a gwastraff hylendid/cewynnau hefyd. Rydyn ni'n gofyn i breswylwyr roi eu biniau mas y noson gynt, neu cyn 5am ar eu diwrnod casglu.
Byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i ledaenu'r neges i gymdogion a chymunedau lleol am y newid dros dro.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Lles ein criwiau yw ein blaenoriaeth, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd twym iawn. Drwy ddechrau casgliadau yn gynharach, gallwn ni helpu i leihau faint o amser mae staff yn gweithio yn ystod y rhan dwymaf o'r dydd ond parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i breswylwyr.”
