Archebion nawr yn cael eu cymryd ar gyfer Gŵyl Gerdded Gyntaf Llwybr Dyffryn Tywi
2 diwrnod yn ôl
Gwahoddir trigolion ac ymwelwyr i fwynhau harddwch, hanes a bywyd gwyllt Dyffryn Tywi yr hydref hwn wrth i Ŵyl Gerdded Llwybr Dyffryn Tywi gael ei lansio gyda rhaglen o deithiau tywys rhwng 16 Medi a 4 Hydref.
Wedi'i threfnu gan Dîm Datblygu Twristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin, yr ŵyl yw'r fenter ddiweddaraf i annog trigolion ac ymwelwyr i fwynhau Llwybr Dyffryn Tywi a gwblhawyd yn ddiweddar, ac a agorwyd yn swyddogol ym mis Mai. Bydd yr ŵyl, sy'n cael ei chynnal am bythefnos, yn rhoi sylw i dirweddau trawiadol, treftadaeth gyfoethog a bywyd gwyllt amrywiol y llwybr wrth hyrwyddo'r llwybr fel ased hamdden a thwristiaeth allweddol i'r sir.
Gyda chefnogaeth Walters Group, a gafodd gontract i osod y pontydd nodedig ar draws Afonydd Tywi a Cothi, sydd wedi gwella mynediad a chysylltedd ar hyd y llwybr, mae'r ŵyl yn cynnig cyfle unigryw i grwydro Llwybr Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.
Wedi'i chynllunio ar gyfer cerddwyr o bob gallu a diddordeb, mae'r rhaglen yn gyfle i weld bywyd gwyllt, mwynhau gweithdai cerdded creadigol, teithiau treftadaeth a sesiynau cerdded Nordig, dan arweiniad tywyswyr arbenigol a sefydliadau lleol.
Ymhlith uchafbwyntiau'r rhaglen y mae:
- 16 Medi - Sesiwn Gwylio'r Gwyllt Gorllewin Cymru - (Nantgaredig)
- 17 Medi – Taith Gwehyddu a Cherdded gyda Quiet Walks (Llandeilo)
- 20 Medi - Taith Gerdded Cestyll a Gerddi gyda Karsten Minter
- 21 & 27 Medi - Taith Gerdded Nordig gyda Nordic Cymru
- 26 Medi - Taith Hanes Dwy Afon
- 4 Hydref - Taith dywys o Goedardd Gelli Aur
Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn un o lwybrau cerdded mwyaf gwerthfawr Sir Gâr, sy'n mynd trwy gefn gwlad hardd, tirweddau glan yr afon, tirnodau hanesyddol a chynefinoedd bywyd gwyllt pwysig.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae Gŵyl Gerdded Llwybr Dyffryn Tywi yn gyfle gwych i fwynhau un o lwybrau cerdded mwyaf hyfryd Sir Gâr a bydd cyfle i chi werthfawrogi'r dreftadaeth, y bywyd gwyllt a'r straeon sy'n ei gwneud mor arbennig. Rydyn ni'n falch iawn o gynnig rhaglen amrywiol ar gyfer pob gallu ac yn ddiolchgar i Walters Group am gefnogi'r ŵyl a helpu i wella mynediad ar hyd y llwybr trwy adeiladu'r pontydd nodweddiadol."
