Ymateb Cyngor Sir Caerfyrddin i ddatgeliad syfrdanol am rygbi Cymru

16 awr yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mynegi pryder difrifol am dryloywder a thegwch adolygiad parhaus Undeb Rygbi Cymru o rygbi rhanbarthol, ar ôl cael gwybod am sylwadau a wnaed gan Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, mewn sesiwn friffio wedi'i recordio i newyddiadurwyr, lle roedd hi'n ffafrio cynnig trwydded rygbi broffesiynol i un tîm yn unig yng ngorllewin Cymru. 

Roedd y datgeliad yn siom fawr i'r Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n galw ar Undeb Rygbi Cymru i egluro ei safbwynt:

Rydyn ni'n ymwybodol o'r recordiad yn ymwneud â Phrif Weithredwr yr Undeb, ac mae goblygiadau hynny i hygrededd yr adolygiad o rygbi rhanbarthol yn sioc i ni.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi datgan dro ar ôl tro y byddai strwythur rygbi proffesiynol yng Nghymru yn y dyfodol yn cael ei ystyried trwy broses dryloyw a diduedd. Byddai unrhyw awgrym bod y canlyniad sy'n cael ei ffafrio eisoes wedi'i nodi yn achos cryn ofid, a byddai risg o danseilio hyder cefnogwyr, clybiau, cymunedau a rhanddeiliaid ledled Cymru.
Mae hyn yn peri pryder sylweddol, o ystyried pwysigrwydd y Scarlets i Lanelli, Sir Gaerfyrddin a rhanbarth ehangach Gorllewin Cymru, a'r sicrwydd roddwyd dro ar ôl tro y byddai unrhyw benderfyniad am ddyfodol rygbi proffesiynol yng Nghymru yn cael ei wneud drwy broses deg, agored sy'n seiliedig ar dystiolaeth. 
Mae'r Scarlets yn sylfaen gref i'r byd chwaraeon, diwylliannol ac economaidd yn Sir Gâr, gan gefnogi swyddi, busnesau lleol, hunaniaeth gymunedol, ac enw da ehangach Llanelli a Gorllewin Cymru. Ni ddylid gwneud penderfyniadau am ddyfodol y Scarlets y tu ôl i ddrysau caeedig nac ar sail rhagdybiaethau a wnaed ymlaen llaw.
Rydyn ni'n galw ar Undeb Rygbi Cymru i roi sicrwydd clir, a hynny ar fyrder, nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ar ddyrannu trwyddedau proffesiynol yn y dyfodol, bod yr holl opsiynau dal yn agored, a bod y dystiolaeth sy'n sail i'r adolygiad yn mynd i gael ei rhannu'n llawn â'r rhanbarthau a'r rhanddeiliaid dan sylw.
Mae unrhyw beth llai na phroses gadarn, dryloyw a theg sy'n seiliedig ar dystiolaeth glir yn annigonol ar gyfer rhywbeth mor bwysig â dyfodol rygbi Cymru.

Mae'r Cyngor yn nodi bod Undeb Rygbi Cymru wedi datgan o'r blaen ei fwriad i adolygu strwythur rygbi proffesiynol yng Nghymru, gan gynnwys ystyried gostyngiad yn nifer y timau proffesiynol dynion fel rhan o ddiwygiadau ehangach i'r gêm ddomestig. 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin o'r farn bod yn rhaid i unrhyw adolygiad o'r fath gydnabod yn llawn gyfraniad diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd y Scarlets, yn ogystal ag o ran chwaraeon, ynghyd â phwysigrwydd rygbi proffesiynol i gymunedau ledled Gorllewin Cymru.

Bydd y Cyngor yn parhau i fonitro datblygiadau'n agos ac yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod llais cefnogwyr Sir Gaerfyrddin, Llanelli a'r Scarlets yn cael ei glywed yn glir wrth i ddyfodol rygbi rhanbarthol yng Nghymru gael ei ystyried.