Sir Gâr yn paratoi ar gyfer haf llawn hwyl i'r teulu wrth i wyliau'r ysgol ddechrau
3 diwrnod yn ôl
Wrth i'r ysgolion baratoi i gau ar gyfer yr haf, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi teuluoedd drwy gynnig rhaglen fywiog o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac adloniant ym mhob rhan o'r sir.
Darganfod Sir Gâr yw'r lle gorau i fynd i weld y rhestr ddiweddaraf o ddigwyddiadau ac atyniadau. O wyliau cymunedol i weithgareddau sy'n addas i deuluoedd, mae cymaint i edrych ymlaen ato yr haf hwn.
Mae lleoliadau'r Cyngor Sir, gan gynnwys ein parciau gwledig hardd, yn ganolog i'r cyfan.
Parc Gwledig Pen-bre
- Diwrnod o Hwyl i'r Teulu (25 Gorffennaf)
- Gwersyll Plant (3–8 Awst)
Llyn Llech Owain
Ym Mhentywyn gall teuluoedd weld Babs yn yr Amgueddfa Cyflymder a phrofi cyffro byd cyflymder a gwyddoniaeth, gan ddarganfod hanes y bobl a'r cerbydau anhygoel fu'n torri recordiau byd ar draeth euraid eiconig 7 milltir Pentywyn. Yna, beth am fwynhau Gwallgolff newydd Caban? Dyma gwrs antur lliwgar 12 twll sydd eisoes yn boblogaidd dros ben gydag ymwelwyr.
Drwy gydol yr haf, mae Canolfannau Hamdden Actif y Cyngor Sir yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i helpu teuluoedd i gadw'n egnïol ac i'w difyrru. O offer gwynt yn y pwll nofio, Byrddau Dŵr, a brwydrau Nerf i ddiwrnodau gweithgareddau ar thema a sesiynau creadigol, mae digonedd o bethau i'w gwneud. Mae Clwb Actif, y clwb gwyliau poblogaidd, hefyd yn ôl, gan gynnig opsiynau hanner diwrnod a diwrnod llawn, sy'n wych i rieni sy'n gweithio. Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i weithgareddau hygyrch, bydd sesiynau nofio am ddim ar gael i blant dan 16 oed ar benwythnosau penodol yng Nghanolfannau Hamdden Canolfan Pentre Awel, Caerfyrddin, Dyffryn Aman a Llanymddyfri.
Mae Llyfrgelloedd Sir Gâr yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau ymarferol am ddim drwy gydol yr haf, o amser stori a chwarae LEGO i glybiau crefftau a chodio sy'n cynnig hwyl, dysgu a chreadigrwydd i blant o bob oedran. Mae Sialens Ddarllen yr Haf hefyd yn dychwelyd o 4 Gorffennaf, ac mae thema eleni, Cyfrolau'n Canu, yn annog plant i ddarganfod storïau trwy gerddoriaeth, rhythm a chreadigrwydd.
Mae gan Theatrau Sir Gâr raglen gyffrous ar draws theatrau'r Lyric, y Glowyr, a Ffwrnes yr haf hwn, a bydd sioeau i'r teulu, cerddoriaeth fyw, comedi a sioeau cerdd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Rude Science yn y Lyric ar 25 Gorffennaf, Pirates! The Penzance Musical yn Ffwrnes rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst, a Gŵyl Fwyd Blas ar 1 Awst, sy'n dathlu'r gorau o fwydydd a chrefftau Cymru. Bydd diwrnodau teuluol Drysau Agored Am Ddim hefyd yn cael eu cynnal ym mhob lleoliad, gan gynnig crefftau, cerddoriaeth, drama, a phrofiadau tu ôl i'r llenni heb fod angen archebu.
Mae Sir Gâr yn cynnig cyfleoedd beicio di-draffig gwych, sy'n rhoi ffordd ddiogel, hygyrch a hwyliog i deuluoedd grwydro arfordir a chefn gwlad y sir. Mae llwybrau fel Sustrans 4, 437 a 47, ynghyd â Llwybr newydd Dyffryn Tywi, yn darparu teithiau â golygfeydd godidog sy'n addas i deuluoedd drwy rai o dirweddau harddaf Sir Gâr.
Ewch i fwynhau picnic ar un o draethau Sir Gâr sydd wedi ennill gwobrau, sef Cefn Sidan, Pentywyn, neu Lansteffan, neu archwilio adfeilion dramatig cestyll Carreg Cennen, Dinefwr, a Chydweli i gael blas ar hanes ac antur. I gael ysbrydoliaeth ar ble i fynd ar hyd yr arfordir, gwyliwch fideos arfordirol Ameer sy'n dangos y rhannau gorau o arfordir Sir Gâr.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Rydyn ni'n hynod falch o gael cefnogi rhaglen fywiog ac amrywiol o ddigwyddiadau yr haf hwn, gan helpu teuluoedd i fanteisio i'r eithaf ar wyliau'r ysgol. Rydyn ni'n ymfalchïo ein bod ni'n cynnig ystod eang o brofiadau, o ddiwrnodau allan sy'n rhoi gwerth gwych am arian ac anturiaethau awyr agored i weithgareddau creadigol a diwylliannol. Mae gwir fwrlwm i'w deimlo ledled y sir yr haf hwn, ac mae rhywbeth i ysbrydoli a diddanu ymwelwyr o bob oedran."
I weld y rhestr lawn, manylion archebu, a rhagor o syniadau ar gyfer eich anturiaethau i'r teulu, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.
