Pum mlynedd o ofal lleol gyda Maethu Cymru Sir Gâr

3 diwrnod yn ôl

Mae Maethu Cymru Sir Gâr yn myfyrio ar bum mlynedd o gefnogi plant a theuluoedd maeth lleol, yn dilyn pumed pen-blwydd Maethu Cymru ddydd Mercher, 15 Gorffennaf.

Wedi'i sefydlu yn 2021, daeth Maethu Cymru â phob un o'r 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled Cymru ynghyd o dan un rhwydwaith cenedlaethol. Fel gwasanaeth nid-er-elw, mae Maethu Cymru yn sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei gyfeirio'n ôl i gefnogi teuluoedd maeth a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Ers ei lansio, mae 704 o ofalwyr maeth newydd wedi'u recriwtio, gan helpu i ddarparu gofal a chefnogaeth leol i fwy na 1,000 o blant.

Prif ffocws Maethu Cymru yw cadw plant yn agos at y bobl a'r llefydd sydd bwysicaf iddynt. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae 84% o blant sy'n cael eu maethu drwy wasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru wedi aros yn eu cymunedau lleol, o'i gymharu â 32% o blant a leolwyd drwy asiantaethau maethu annibynnol.

Mae Maethu Cymru Sir Gâr wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn drwy gefnogi gofalwyr maeth lleol i ddarparu cartrefi diogel, sefydlog a meithringar i blant nad ydynt yn gallu byw gyda'u teuluoedd geni.

Yn 2025, cyflwynodd Maethu Cymru borth ar-lein The Big Welcome sy'n galluogi gofalwyr maeth i greu proffiliau wedi'u personoli sy'n cynnwys ffotograffau a gwybodaeth am eu teulu, eu cartref, eu hanifeiliaid anwes a'u hardal leol. Mae hwn yn helpu plant a phobl ifanc i ddysgu mwy am eu teulu maeth cyn iddynt gyrraedd, gan wneud yr hyn a all fod yn brofiad pryderus deimlo'n fwy cyfarwydd a chroesawgar. Ledled Cymru, mae 762 o ofalwyr maeth bellach yn defnyddio'r porth.

Mae Maethu Cymru hefyd wedi cyflwyno Ffrindiau Gofal, menter sy'n rhoi cyfle i ofalwyr maeth gefnogi recriwtio lleol drwy rannu cyfleoedd maethu gyda ffrindiau, teulu a'u cymunedau ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:

Rwy'n hynod o falch o'r hyn y mae Maethu Cymru Sir Gâr a'n gofalwyr maeth wedi'i gyflawni dros y pum mlynedd diwethaf. Gall cadw plant yn gysylltiedig â'u cymunedau, ysgolion, ffrindiau, a rhwydweithiau cymorth wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar adeg anodd yn eu bywydau.
Mae porth The Big Welcome yn dangos sut y gall syniad syml gael effaith gadarnhaol, gan helpu plant i deimlo'n fwy cyfforddus a sicr cyn symud i mewn gyda theulu maeth. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y cyflawniadau hyn a pharhau i gefnogi plant a gofalwyr maeth lleol am flynyddoedd i ddod."

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.