Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2026
2 diwrnod yn ôl
Mae Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn falch iawn o gyhoeddi eu bod yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf eleni, Cyfrolau'n Canu. Eleni mae'r sialens yn dathlu'r cysylltiad rhwng darllen, cerddoriaeth a chreadigrwydd. Mae'r sialens yn dechrau ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf.
Mae'n annog plant rhwng 4 ac 11 oed i fynd i'w llyfrgell leol, cofrestru ar gyfer y cynllun a mwynhau chwe llyfr o'u dewis nhw dros wyliau'r haf. Bydd plant sy'n cwblhau'r sialens yn cael tystysgrif a medal, ac mae gwobrau ar gael ar y daith. Mae fersiwn ar-lein o'r sialens hefyd ar gael. Mae'r sialens yn agored i bob plentyn sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin. Nid oes rhaid i'r plentyn fod yn aelod o'r llyfrgell yn barod, oherwydd mae modd creu aelodaethau yn rhad ac am ddim pan fydd plant yn cofrestru ar gyfer y sialens.
Nod Sialens Ddarllen yr Haf, sy'n cael ei chyflwyno'n genedlaethol gan The Reading Agency, yw ysbrydoli plant i barhau i ddarllen trwy gydol gwyliau'r haf, gan helpu i fagu hyder, creadigrwydd a chariad gydol oes at lyfrau.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Sialens Ddarllen yr Haf yw un o uchafbwyntiau ein calendr llyfrgell, gan ysbrydoli plant i barhau i ddarllen, dysgu a defnyddio eu dychymyg trwy gydol gwyliau'r haf. Hyfryd yw gweld pobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin yn cymryd rhan bob blwyddyn, yn darganfod llyfrau newydd ac yn datblygu cariad gydol oes at ddarllen.
Ychwanegodd un awdur lleol, Mark Llewelyn Evans, y mae ei waith yn y rhestr ddarllen eleni:
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ein hatgoffa fod darllen yn gallu agor drysau, magu hyder ac ysbrydoli creadigrwydd. Mae hefyd yn ffordd wych o'n hatgoffa o'r neges sy'n llywio popeth rwy'n ei wneud: Mae Unrhyw Un yn Gallu. Ta ble rydych chi'n dechrau, pa heriau bynnag rydych chi'n eu hwynebu, neu pa lwybr bynnag rydych chi'n ei gymryd, mae pethau gwych yn gallu digwydd pan fyddwch chi'n credu ynoch chi eich hun ac yn cadw fynd.
Drwy gydol yr haf, bydd Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn cynnal ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau am ddim i blant a theuluoedd ar draws y sir. Bydd manylion am y digwyddiadau sydd i ddod ar gael o lyfrgelloedd lleol a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin.
Hefyd gall plant dan bedair oed gymryd rhan yn y Sialens Fach, gan gasglu sticeri ar gyfer pob un o'r chwe llyfr maen nhw'n eu darllen neu'n eu rhannu gyda rhiant, gofalwr neu aelod o'r teulu.
Pob lwc i'r holl blant a theuluoedd sy'n cymryd rhan yn y sialens eleni.
