Llwyddiant i Ysgol Gyfun y Strade yn arolygiad Estyn

1 diwrnod yn ôl

Cafodd Ysgol Gyfun y Strade adroddiad arolygu cadarnhaol gan Estyn, sy'n tynnu sylw at yr ysgol fel cymuned gynnes, gefnogol a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo synnwyr cryf o berthyn.

Mae'r adroddiad yn cydnabod cryfder perthnasoedd ar draws yr ysgol, gan nodi bod perthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng staff a disgyblion yn sail i amgylchedd dysgu cynhyrchiol. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn barchus, yn dangos agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu ac yn ymroi’n frwd i’w dysgu, gan gyfrannu at amgylchedd digynnwrf a phwrpasol.

Roedd yr arolygwyr hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn gwerthfawrogi "ethos cynhwysol a theuluol" yr ysgol, sy'n chwarae rhan allweddol yn eu llesiant a'u hymgysylltiad. Mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn o'u mannau cychwyn, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gyda chefnogaeth addysgu effeithiol a gofal bugeiliol cryf.

Mae'r adroddiad yn canmol cwricwlwm yr ysgol fel un eang, perthnasol a chynhwysol, gan gefnogi disgyblion i ddatblygu fel unigolion cyflawn. Cryfder penodol yw'r dull strategol o ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, gydag arolygwyr yn nodi bod cynllunio a chydgysylltu yn "hynod o effeithiol" ac yn arwain at lawer o ddisgyblion yn cymhwyso eu sgiliau yn hyderus ar draws y cwricwlwm.

Cydnabuwyd hefyd bod y trefniadau llesiant a chymorth yn gryf. Mae staff yn adnabod disgyblion yn dda ac yn darparu cymorth wedi'i deilwra i ddiwallu eu hanghenion. Tynnwyd sylw at y fenter 'Strade yn y Gymuned' fel nodwedd werthfawr o waith yr ysgol, gan helpu i wella llesiant ac ymgysylltiad disgyblion a'u cefnogi i oresgyn heriau sy'n gysylltiedig â thlodi ac anawsterau cymdeithasol ac emosiynol.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd cadarn ar gyfer arweinyddiaeth disgyblion, gan gynnwys gorsaf radio'r ysgol 'Sain y Sosban', sy'n hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gan gryfhau'r ymdeimlad o gymuned ar draws yr ysgol.

Roedd Estyn yn cydnabod gweledigaeth glir ac arweinyddiaeth gadarn y pennaeth, gyda chefnogaeth effeithiol yr uwch-arweinwyr a llywodraethwyr. Mae'r adroddiad yn nodi bod arweinwyr wedi sicrhau gwelliannau mewn meysydd allweddol, gan gynnwys addysgu a darparu sgiliau, er mae'n nodi gwella presenoldeb fel blaenoriaeth ar gyfer datblygiad pellach.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gyfun y Strade, Geoff Evans:  

Rydyn ni'n falch iawn o'n disgyblion a'r cyfan maen nhw wedi'i gyflawni. Mae eu hagweddau cadarnhaol, eu gwytnwch a'u hymrwymiad i ddysgu wrth wraidd y llwyddiant hwn, ac mae'r adroddiad hwn yn cydnabod yr ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn sy'n gwneud Ysgol Gyfun y Strade yn lle mor arbennig.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:

Mae'r adroddiad cadarnhaol hwn gan Estyn yn adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled staff, arweinwyr a llywodraethwyr Ysgol Gyfun y Strade, yn ogystal â brwdfrydedd ac ymrwymiad ei disgyblion. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at amgylchedd dysgu gofalgar ac uchelgeisiol lle mae disgyblion yn cael eu cefnogi i lwyddo. Mae'r ffocws cryf ar lesiant, datblygu sgiliau ac ymgysylltu â'r gymuned yn arbennig o galonogol, ac edrychwn ymlaen at gefnogi'r ysgol wrth iddi barhau i adeiladu ar y llwyddiannau hyn.”