Gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd i'w gyflwyno mewn rhannau o Sir Gâr

6 awr yn ôl

Bydd Cyngor Sir Gâr yn cyflwyno gwasanaeth casgliadau ailgylchu ar wahân newydd o ganol/diwedd tymor yr hydref, 2026. Bydd tua un cartref o bob tri, yng ngorllewin y sir yn bennaf, yn newid i'r gwasanaeth newydd yn ystod y cam cyntaf hwn.

Mae'r gwasanaeth newydd, a elwir yn Ailgylchu ar Wahân, yn rhan o 'Lasbrint Casgliadau' Llywodraeth Cymru gyda'r nod o gynyddu faint o ddeunydd ailgylchu sy'n cael ei gasglu a gwella ei ansawdd, gan helpu Cymru i gyflawni cyfraddau ailgylchu uwch.

Cyflwynwyd gyntaf ym mlynyddoedd cynnar yr 21ain ganrif, a Sir Gâr fydd yr 19eg awdurdod lleol yng Nghymru i newid i gasgliadau Ailgylchu ar Wahân, ac elwa ar gynnydd mewn cyfraddau ailgylchu.

Gallai cynghorau wynebu dirwyon trwm am fethu â chyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru, a all effeithio'n uniongyrchol ar drethdalwyr y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cyflwyno'r newidiadau hyn mewn dau gam ar draws y sir. Bydd y ddwy ran o dair o gartrefi sy'n weddill yn parhau i gael y gwasanaeth casglu Ailgylchu Cymysg (bagiau glas) hyd at yr ail gam.

Bydd rhai cartrefi yng ngorllewin y sir hefyd yn parhau i gael y gwasanaeth Ailgylchu Cymysg (bagiau glas) am nawr, os ydyn nhw o fewn un neu fwy o'r categorïau canlynol:

  • Fflatiau
  • Cartrefi gyda mannau casglu cymunedol neu fannau sy'n cael eu rhannu ar gyfer eu deunydd ailgylchu a'u gwastraff
  • Cartrefi sydd â mynediad cyfyngedig neu anodd i'n criwiau a'n cerbydau casglu 

Fel rhan o'r gwelliannau hyn i'r gwasanaeth, mae'n bosibl y bydd newidiadau i ddiwrnod casglu a/neu wythnos gasglu yr holl gartrefi ar draws y sir wrth i'r Cyngor weithio i wneud y gwasanaeth mor effeithlon a dibynadwy â phosibl.

Bydd pob cartref yn y sir yn cael llythyr yn yr wythnosau nesaf yn cadarnhau a fydd yn newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd o ganol/diwedd tymor yr hydref neu'n parhau i gael y gwasanaeth Ailgylchu Cymysg presennol (bagiau glas) am nawr.

Beth sy'n newid?

Gofynnir i gartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân ddidoli eu deunydd ailgylchu i sachau a chynhwysyddion y gellir eu hailddefnyddio. Ni fydd y Cyngor yn casglu deunydd ailgylchu mewn bagiau glas untro o'r cartrefi hyn mwyach.

Fel rhan o'r gwasanaeth newydd, bydd preswylwyr hefyd yn gallu ailgylchu hyd yn oed mwy o'u gwastraff o'u cartrefi, wrth i'r Cyngor ddechrau casglu bagiau a deunydd lapio plastig, a batris cartref.

Bydd y Cyngor yn dosbarthu'r sachau ailgylchu newydd a chyflenwad blynyddol o fagiau leinio ar gyfer cadis gwastraff bwyd i gartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth newydd yn ystod mis Awst a mis Medi 2026.

Bydd cartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth newydd yn derbyn:

  • sach goch y gellir ei hailddefnyddio ar gyfer metelau, plastigau a chartonau
  • sach oren y gellir ei hailddefnyddio ar gyfer cardbord
  • sach las, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, ar gyfer papur
  • rholyn o fagiau coch ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig
  • sach wen fach, sy'n gallu cael ei hailddefnyddio, ar gyfer batris cartref

Bydd gwastraff bwyd a deunydd ailgylchu yn parhau i gael eu casglu bob wythnos, a bydd poteli a jariau gwydr hefyd yn cael eu casglu bob wythnos.

Bydd y Cyngor yn parhau i gasglu hyd at 3 bag du o wastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos.

Ni fydd unrhyw newidiadau i gasgliadau gwastraff gardd na chasgliadau gwastraff hylendid a chewynnau.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd pob cartref ar draws y sir yn cael llythyr yn yr wythnosau nesaf yn cadarnhau a fydd yn newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd o ganol/diwedd tymor yr hydref neu'n parhau i gael y gwasanaeth Ailgylchu Cymysg presennol (bagiau glas) am nawr.

Gall preswylwyr ddefnyddio'r gwiriwr côd post ar wefan y Cyngor i wirio a yw'r newidiadau yn effeithio ar eu cartrefi eleni. Gallan nhw hefyd wirio ar ran aelodau'r teulu neu gymdogion sydd hefyd yn byw yn y sir.

Ym mis Medi 2026:

  • Bydd cartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth newydd eleni yn cael ail lythyr yn cadarnhau unrhyw newidiadau i'w diwrnod casglu a/neu wythnos gasglu, pecyn gwybodaeth sy'n esbonio sut i ddefnyddio'r gwasanaeth newydd, a chalendr casgliadau newydd.
  • Bydd cartrefi nad ydynt yn newid i'r gwasanaeth newydd eleni yn cael ail lythyr yn cadarnhau unrhyw newidiadau i'w diwrnod casglu a/neu wythnos gasglu, a chalendr casgliadau newydd.

Dros dymor yr hydref, bydd y Cyngor yn dosbarthu'r cyflenwad blynyddol arferol o fagiau glas a bagiau leinio ar gyfer cadis gwastraff bwyd i'r cartrefi nad ydyn yn newid i'r gwasanaeth newydd eleni.

Ar y cam hwn, nid oes angen i breswylwyr gymryd unrhyw gamau gweithredu. Dylen nhw barhau i ddefnyddio eu gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu presennol yn ôl yr arfer hyd nes i'r Cyngor gysylltu â nhw i roi rhagor o wybodaeth.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud y broses bontio mor ddidrafferth â phosibl. Bydd cymorth yn cael ei roi i helpu preswylwyr i addasu i'r gwasanaeth newydd.

Anogir preswylwyr i gofrestru i gael negeseuon e-bost neu negeseuon testun am ddim i'w hatgoffa am gasgliadau ailgylchu a gwastraff, ni waeth pa wasanaeth maen nhw'n ei ddefnyddio.

Maen nhw hefyd yn cael eu hannog i rannu'r wybodaeth hon gydag aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gymdogion a allai ddibynnu ar eraill i gael diweddariadau a gwybodaeth.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwiriwr côd post a chwestiynau cyffredin, ar gael yma.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas:

Mae'r gwasanaeth ailgylchu ar wahân newydd hwn yn gam pwysig ymlaen i Sir Gaerfyrddin. Drwy ddidoli gwastraff ailgylchu, gallwn ni wella ansawdd y deunyddiau sy'n cael eu casglu a chefnogi uchelgais Cymru i arwain y ffordd ym maes ailgylchu. Rydyn ni'n cyflwyno'r newidiadau mewn camau i wneud yn siŵr bod y broses bontio mor ddidrafferth â phosibl. Nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau ar hyn o bryd – byddwn ni'n cysylltu â phob cartref yn uniongyrchol i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen."

 

A yw eich gwasanaeth ailgylchu yn newid o ganol/diwedd tymor yr Hydref 2026?

Gallwch ddarganfod isod a yw eich cartref yn newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân Newydd.