Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026 yn croesawu miloedd o ymwelwyr

4 awr yn ôl

Daeth miloedd o ymwelwyr i ddathlu cymuned y Lluoedd Arfog wrth i Sir Gaerfyrddin gynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026 ym Mharc Gwledig Pen-bre ddydd Sadwrn 27 Mehefin.

Roedd y digwyddiad rhad ac am ddim, oedd yn addas i'r teulu, yn darparu adloniant drwy gydol y dydd, gan ddechrau gyda gorymdaith oedd yn cynnwys aelodau presennol o'r Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a chadetiaid, dan arweiniad masgot gafr y Gatrawd Frenhinol Gymreig, sef y Ffiwsilwr Shenkin IV o'r 3ydd Bataliwn.  

Parhaodd y cyffro drwy gydol y dydd, wrth i A400m Atlas hedfan heibio am 12:30pm ar ôl y seremoni agoriadol. Yr Awyr-lefftenant Will Murray oedd wrth y llyw, gyda'r Rhingyll Rob Small yn chwifio i'r torfeydd o gefn yr awyren.

Hefyd, gwelodd yr ymwelwyr berfformiad anhygoel gan Dîm Arddangos Parasiwt Hebogiaid yr Awyrlu Brenhinol, sef arddangosfa oedd yn cynnwys symudiadau cwympo rhydd syfrdanol ar gyflymder o hyd at 120mya.

Ar y brif lwyfan roedd yr adloniant drwy'r dydd a gyda'r nos yn cynnwys cerddoriaeth gan Newshan, yn ogystal â pherfformiadau gan aelodau presennol a chyn-aelodau o Loud Applause Rising Stars, gan gynnwys Lauren Williams a Liam J Edwards (a wnaeth gyrraedd rownd derfynol Y Llais ar S4C yn 2025) a'r prif berfformiwr oedd Samuel Wyn Morris o'r West End.

Roedd ystod eang o stondinau ac atyniadau ar gael drwy gydol y dydd, gan gynnwys arddangosiadau ac efelychiadau y Lluoedd Arfog, ardal filwrol, parth teuluol, a dewis o fwyd a diod. Roedd gwasanaethau Cyngor Sir Caerfyrddin gan gynnwys Chwaraeon a Hamdden Actif a Scarlets Llanelli hefyd yn bresennol. Cafodd ymwelwyr gyfle hefyd i weld cerbydau milwrol go iawn â'u llygaid eu hun ac archwilio arddangosfeydd y Lluoedd Arfog.

Gallwch chi weld lluniau o bob rhan o'r diwrnod drwy fynd i wefan Darganfod Sir Gâr.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: 

Rwy'n falch iawn bod Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2026, a gynhaliwyd gan Sir Gaerfyrddin ym Mharc Gwledig Pen-bre, yn llwyddiant ysgubol, wrth i filoedd o ymwelwyr ddod draw i ddathlu ein Lluoedd Arfog."

Roedd Sioned Williams, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn bresennol yn y digwyddiad.  Dywedodd:

"Roedd y diwrnod yn gyfle i ni ddangos ein gwerthfawrogiad i'r rhai sy'n gwasanaethu ac wedi gwasanaethu, ac i'w teuluoedd, a chydnabod y cyfraniad maen nhw'n ei wneud i'n cymunedau.

Diolch i Gyngor Sir Caerfyrddin, ein partneriaid, a'r holl wirfoddolwyr a sefydliadau sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog ac a helpodd i sicrhau bod y diwrnod yn llwyddiant mawr." 

Dywedodd Rob Woods OBE, Swyddog Awyr Cymru:

Arddangosodd Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru y gorau o'n Lluoedd Arfog mewn lleoliad arbennig — cyfle ysbrydoledig i wylio Atlas C.1 (A400M) yn hedfan heibio, manwl gywirdeb Tîm Arddangos yr Hebogiaid, a phresenoldeb pwerus ar y cyd gan y tri gwasanaeth, gan ddangos gallu, ymrwymiad a balchder.  Roedd yn anrhydedd bod yn bresennol ac yn ddiwrnod hynod bleserus i bawb.”

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'r tri llu arfog – y Fyddin, y Llynges Frenhinol a'r Llu Awyr Brenhinol – yn ogystal ag amrywiaeth o sefydliadau cefnogol. Cafodd y digwyddiad ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn a chafodd £20,000 o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.