Disgyblion Sir Gâr yn ennill cystadleuaeth fawreddog y Llyfrgell Brydeinig

8 diwrnod yn ôl

Mae disgyblion Ysgol Glan-y-Môr wedi'u coroni'n enillwyr digwyddiad mawreddog y Llyfrgell Brydeinig a gafodd ei gynnal yn Llundain.

Llwyddodd tîm Glan-y-Môr i ennill yn erbyn ysgolion o bob cwr o'r Deyrnas Unedig, gan gyflwyno cyflwyniad eithriadol am lyfr gan awduron Du Prydeinig. Roedd safon y ceisiadau ar y diwrnod yn uchel iawn, gan wneud llwyddiant y disgyblion hyd yn oed yn fwy rhyfeddol.

Roedd y cyflwyniad buddugol yn arddangos creadigrwydd, hyder ac ysbryd cydweithredol dysgwyr Sir Gâr.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg:  

Mae hwn yn gyflawniad gwych i'r disgyblion ac i Ysgol Glan-y-Môr. Mae eu hymroddiad, eu creadigrwydd a'u gwaith tîm yn cael eu hadlewyrchu'n glir yn ansawdd eu gwaith. Mae'n fraint i bawb a fu'n cymryd rhan, ac mae'r disgyblion wedi cynrychioli eu hysgol a Sir Gâr yn eithriadol o dda."