Dathlu llwyddiant twristiaeth Sir Gâr wrth i fusnesau ac atyniadau lleol ennill gwobrau mawreddog
2 diwrnod yn ôl
Mae cyfres o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol mawreddog a enillwyd gan fusnesau ac atyniadau twristiaeth Sir Gâr yn arddangos y sir fel un o brif gyrchfannau ymwelwyr Cymru ac yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae twristiaeth yn ei chwarae yn yr economi leol.
Daw'r llwyddiannau hyn wrth i ffigurau diweddaraf Asesiad Effaith Economaidd STEAM ddangos bod twristiaeth yn cyfrannu tua £764 miliwn i economi Sir Gâr bob blwyddyn, gan gefnogi busnesau, swyddi a chymunedau ledled y sir.
Ymhlith y busnesau sy'n derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol mae Fferm Llwynifan yn Llangennech, Llanelli, a Craig Evans Coastal Foraging. Mae'r ddau fusnes wedi derbyn Gwobr Travellers' Choice, Tripadvisor sy'n eu gosod ymhlith hoff gyrchfannau a phrofiadau teithwyr ledled y byd, yn seiliedig ar adolygiadau rhagorol cyson gan ymwelwyr.
Mae Gwesty Fferm Llanerchindda ger Cynghordy ym Mynyddoedd Cambria wedi cael ei enwi gan yr AA fel Gwely a Brecwast y Flwyddyn Cymru 2026. Mae'r wobr fawreddog yn cydnabod y safonau uchaf o letygarwch, llety a phrofiad gwesteion ledled Cymru.
Yng Ngwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar, cafodd nifer o fusnesau twristiaeth a lletygarwch eu cydnabod am eu cyflawniadau rhagorol:
- Emma Hill o Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain – Entrepreneur y Flwyddyn
- HolidayNests – Busnes Gwyrdd y Flwyddyn
- Albert Rees, Deli Caerfyrddin – Busnes Manwerthu y Flwyddyn
- LiveFree Adventures – Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn
Daw'r gydnabyddiaeth ar adeg gyffrous i dwristiaeth yn Sir Gâr. Mae tîm Twristiaeth Cyngor Sir Gâr wedi sicrhau £50,000 ychwanegol o gyllid i gefnogi gweithgarwch i ddatblygu cyrchfannau, wrth i waith barhau ar brosiectau a gyflawnir drwy raglen sy’n buddsoddi mewn twristiaeth gwerth £1 miliwn ledled y sir.
Mae Sir Gâr hefyd wedi croesawu newyddiadurwyr o bapur newydd The Sun, gan helpu i godi proffil y sir ymhlith cynulleidfa genedlaethol. Yn y cyfamser, mae'r cyfnod diweddar o dywydd twym wedi cyfrannu at niferoedd uchel o ymwelwyr yn atyniadau a pharciau gwledig y Cyngor.
Mae'r sir hefyd wedi dathlu rhagoriaeth amgylcheddol, gyda Pharc Gwledig Pen-bre a Pharc Gwledig Llyn Llech Owain unwaith eto yn ennill Gwobr y Faner Werdd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae’r wobr yn cydnabod ansawdd uchel y mannau gwyrdd gwerthfawr hyn a'r profiadau i ymwelwyr y maent yn eu darparu.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r gwobrau hyn yn tystio i’r safon a’r ymrwymiad a welir ar draws sector twristiaeth Sir Gâr. Gyda thwristiaeth yn cyfrannu £764 miliwn i'r economi leol ac yn cefnogi miloedd o swyddi, mae'n wych gweld busnesau, atyniadau a pharciau lleol yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol. Llongyfarchiadau i bawb sy'n ymwneud â hyn a diolch am y cyfraniad gwerthfawr rydych chi'n ei wneud i'n cymunedau a'n heconomi.”
Mae Sir Gâr yn cynnig ystod amrywiol o brofiadau i ymwelwyr, boed yn llety a bwyd a diod lleol sydd wedi ennill nifer o wobrau i anturiaethau awyr agored, cefn gwlad ysblennydd, arfordir trawiadol ac atyniadau ymwelwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.
Mae'r nifer cynyddol o wobrau sy'n cael eu hennill ledled y sir yn atgyfnerthu enw da Sir Gâr fel cyrchfan ymwelwyr o ansawdd uchel ac yn tynnu sylw at gryfder a gwytnwch y sector twristiaeth.
