Cynigion ynghylch Parc y Brodyr Llwyd, Caerfyrddin wedi'u cymeradwyo gan Gabinet y Cyngor
1 diwrnod yn ôl
Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cynlluniau i ailddatblygu safle Parc y Brodyr Llwyd yng Nghaerfyrddin yn ei gyfarfod ar 27 Gorffennaf 2026.
Mae'r cynigion yn cynnwys dymchwel hen adeilad Wilko, sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes o ran defnydd, ac ailddatblygu'r maes parcio cyfagos. Bydd y cynlluniau'n sicrhau bod y safle'n bodloni safonau parcio modern, yn ei wneud yn addas i'r diben ac yn ei alluogi i gael ei ddefnyddio unwaith eto, a hynny er budd y dref.
Mae cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer dymchwel a gwneud gwaith ar y maes parcio drwy Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynnwys y dyraniad cyllid o fewn rhaglen gyfalaf y Cyngor er mwyn galluogi'r gwaith i fynd rhagddo.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae penderfyniad y Cabinet i gymeradwyo ailddatblygu safle Parc y Brodyr Llwyd yn gam cyntaf pwysig o ran creu ased canol tref mwy deniadol sy'n diwallu anghenion modern.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Hysbysiad Dymchwel yn y dyddiau nesaf.”
Mae'r Cyngor Sir yn cynnal trafodaethau â phartïon sydd â diddordeb ynglŷn â'r defnydd o'r safle yn y dyfodol.
