Cyngor Sir Caerfyrddin yn cytuno i fabwysiadu Strategaeth Fwyd Leol

1 diwrnod yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i fabwysiadu Strategaeth Fwyd Leol a Chynllun Gweithredu Sir Gaerfyrddin sy'n nodi cynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod pawb yn Sir Gaerfyrddin yn gallu cael mynediad at fwyd lleol, iach a chynaliadwy.

Ar ôl cymeradwyo'r Strategaeth, bydd cynnydd yn cael ei wneud yn awr o ran cyflawni'r Cynllun Gweithredu dan arweiniad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin i lunio'r weledigaeth o greu "System Fwyd Sir Gaerfyrddin sy'n cynhyrchu, hyrwyddo a darparu bwyd iach a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Bydd tair elfen i'r Strategaeth:

  • Bwyd ar gyfer Iechyd y Cyhoedd – sicrhau bod gan bawb yn Sir Gaerfyrddin fynediad at fwyd lleol, iach a chynaliadwy
  • Darpariaeth y Sector Cyhoeddus – bod holl wasanaethau arlwyo ac addysg a darpariaeth y sector cyhoeddus yn gweithio ar y cyd i baratoi, gweini a hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy
  • Yr Economi Fwyd Leol – datblygu economi fwyd leol ffyniannus, arloesol a gwydn sy'n cadw gwerth

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cymunedau a'r Gymraeg:

Mae Strategaeth Fwyd Leol Sir Gaerfyrddin wedi'i datblygu gyda nodau uchelgeisiol, gan gynnwys y bydd 30% o fwyd y sector cyhoeddus yn dod o ffynonellau lleol ac yn gynaliadwy erbyn 2030. Nod y Strategaeth hefyd yw darparu gwell mynediad i drigolion Sir Gaerfyrddin at lysiau a ffrwythau, a lleihau'r defnydd o fwydydd sydd wedi'u prosesu neu sy'n cynnwys llawer o fraster, halen neu siwgr a gwella'r economi fwyd leol drwy ddatblygu diwydiant bwyd cryf a ffyniannus."